Mae dyn busnes wedi cael ei garcharu am yrru e-byst bygythiol at nifer o Aelodau Seneddol.
Fe wnaeth Paul Ritchie, 35, bledio’n euog i 28 achos o yrru gohebiaeth electroneg gyda’r bwriad o achosi pryder a gofid rhwng mis Mawrth a mis Awst 2019.
Gyrrodd e-byst at Adam Price, cyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow, Jeremy Corbyn, y cyn-Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd, ac Ian Blackford, Arweinydd yr SNP yn San Steffan.
Yn ogystal, bu’n targedu’r cyn-dwrnai cyffredinol Dominic Grieve, cyn-Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jo Swinson, ei holynydd Ed Davey, a Rory Stewart a oedd yn aelod o Gabinet Llywodraeth Prydain ar y pryd.
“Afiach”
Cafodd Paul Ritchie ei arestio yn ei fflat yn Paddington yng nghanol Llundain, a’i garcharu am flwyddyn yn Llys y Goron Southwark heddiw (18 Mehefin).
“Does gen i ddim amheuaeth fod gennych chi gasineb dwfn tuag at rai oedd â daliadau croes i’ch rhai chi, ac mae’n ymddangos mai dyna oedd eich ysgogiad,” meddai’r Barnwr Adam Hiddleston wrth ei ddedfrydu.
“Roedd cynnwys yr e-byst yn afiach.
“Roedden nhw’n cynnwys bygythiadau o drais, megis bygythiadau i saethu rhywun yn eu pen a bygythiadau i ladd, er enghraifft, drwy dorri eu pen i ffwrdd.
“Byddai’r rhai dderbyniodd yr e-byst wedi dychryn ac yn poeni am eu diogelwch personol, a diogelwch eu hanwyliaid, does dim amheuaeth.”
“Wedi’u hysgwyd”
Fe wnaeth yr erlynydd, Ruby Selva, ddweud wrth y llys bod dioddefwyr yn dweud eu bod nhw “wedi’u hysgwyd”, ac yn “ofni am eu diogelwch personol”.
Fe wnaeth Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, ddweud ei fod yn “teimlo’n ansicr, wedi’i ysgwyd, ac yn ofni am ei ddiogelwch” ar ôl derbyn e-bost yn dweud “ti’n haeddu cael dy saethu yn dy wyneb”.
Derbyniodd yr e-bost wrth fwyta swper gyda’i deulu ar ôl ymddangos ar raglen Andrew Marr ar y BBC i drafod Brexit.
Mewn datganiad yn y llys, dywedodd cyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, fod “lefel y gamdriniaeth a’r bygythiadau” tuag at Aelodau Seneddol wedi cynyddu ers i Jo Cox gael ei llofruddio gan derfysgwr yn 2016.
“Dylai’r rhai sy’n euog wynebu grym llawn y gyfraith ar lefel addas,” meddai.
“Dylai’r aelodau deimlo’n saff yn gwybod eu bod nhw’n gallu cyflawni eu rôl mewn democratiaeth.”
“Difaru”
Dywedodd cyfreithwraig Paul Ritchie ei fod yn “difaru’n wirioneddol, ac yn teimlo’n siomedig” am gynnwys yr e-byst – “sy’n annhebyg i’w farn wleidyddol”.
“Mae e’n ddyn busnes, dyn addysgedig, sydd wir yn ei chael hi’n anodd ar y funud, ac sydd wedi dadfeilio,” meddai Emma Fenn.
Clywodd y llys fod Ritchie yn dioddef o iselder, a’i fod yn cam-drin alcohol a chyffuriau pan yrrodd yr e-byst.