Mae yna “faterion difrifol iawn” i’w hystyried ynghylch brechu plant yn erbyn Covid-19, meddai Mark Drakeford.

Yn ystod cynhadledd i’r Wasg heddiw (18 Mehefin), dywedodd y Prif Weinidog fod byrddau iechyd ar draws Cymru’n ffurfio cynlluniau ar sut i roi trydydd brechlyn Covid i bobol dros yr hydref.

Maen nhw hefyd yn ystyried sut i frechu plant dros 12 oed, pe bai hynny’n cael ei gymeradwyo.

Ganol yr wythnos, fe wnaeth Ysgrifennydd Masnach y Deyrnas Unedig awgrymu na fydd y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwnedd yn argymell brechu pobol dan 18 oed.

Yng Nghymru, mae nifer achosion y feirws yn cynyddu bob wythnos yn sgil amrywiolyn Delta, ac mae cynghorwyr gwyddonol yn credu fod y Deyrnas Unedig “yn y cyfnod cyn brig trydedd don” o Covid-19, meddai’r Prif Weinidog.

Mae lle i gredu mai’r amrywiolyn Delta sy’n gyfrifol am 8 o bob 10 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru ar hyn o bryd.

Brechu plant

Wrth ystyried y cynlluniau ar gyfer brechu plant dros 12 oed, dywedodd Mark Drakeford fod hynny’n “dibynnu ar gyngor y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwnedd”.

“Roedden ni’n disgwyl y cyngor hwnnw tua nawr, ond rydyn ni’n gwybod nawr fod hynny wedi’i ohirio nes diwedd y mis,” meddai.

“Mae hyn yn rhannol oherwydd bod yna faterion difrifol iawn i’w hystyried ynghylch diogelwch ar yr un llaw, diogelwch y brechlyn i blant, a’r materion moesol hefyd – er budd pwy mae plant yn cael eu brechu?”

Dywedodd fod plant iau yn “annhebygol iawn” o fynd yn sâl, ac yn “annhebygol iawn, iawn” o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Er hynny, mae plant yn lledaenu’r feirws i bobol a allai ei ddal a chael eu heffeithio’n waeth.

“Ydi e’n foesol gywir i frechu plant – oherwydd mae yna wastad risg mewn brechu – dim oherwydd ei fod o fudd iddyn nhw, ond oherwydd ei fod yn amddiffyn oedolion?” gofynnodd Mark Drakeford.

“Dw i’n meddwl eu bod nhw’n gwestiynau moesol anodd, ac mae’n rhan o’r rheswm pam fod y Cydbwyllgor wedi penderfynu cymryd ychydig hirach cyn rhoi eu cyngor i ni.”

Cyfnod cyn trydedd don

Yn ôl Mark Drakeford, mae cynghorwyr gwyddonol yng Nghymru’n credu fod y Deyrnas Unedig “yn y cyfnod cyn brig trydedd don”.

Mae lle i gredu fod 8 ymhob 10 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru yn ymwneud ag amrywiolyn Delta, meddai.

“Mewn ychydig wythnosau, mae’r amrywiolyn Delta wedi cyrraedd Cymru a lledaenu’n gyflym drwy’r wlad.

“Mae yna batrwm lledaenu cyson sy’n cyflymu, ymhob rhan o’r wlad, nid yng ngogledd a de-orllewin Cymru’n unig.

“Mae hynny’n golygu ein bod ni, unwaith eto, yn wynebu sefyllfa iechyd cyhoeddus difrifol.

“Efallai fod Cymru ddwy neu dair wythnos tu ôl i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr ac yn yr Alban, lle mae degau o filoedd o achosion wedi’u cadarnhau, ond mae yna ledaeniad eang ac adroddiadau fod derbyniadau i ysbytai yn cynyddu hefyd.”

Fe wnaeth Mark Drakeford gadarnhau neithiwr (17 Mehefin) na fydd rhagor o gyfyngiadau’n cael eu llacio am bedair wythnos, er mwyn rhoi amser i frechu mwy o’r boblogaeth.

Y sefyllfa bresennol

Mae achosion yng Nghymru wedi bod yn cynyddu ers diwedd mis Mai, meddai, yn enwedig ymysg pobol ifanc dan 25 oed.

Bythefnos yn ôl roedd 10 achos i bob 100,000 o bobol yng Nghymru, ond erbyn hyn mae 23.6 achos i bob 100,000 person.

“Bythefnos yn ôl, roedd yna 97 achos wedi’u cadarnhau yng Nghymru ac roedd rhan fwyaf ohonyn nhw’n gysylltiedig â chlystyrau yng ngogledd a de-orllewin Cymru,” meddai’r Prif Weinidog.

“Ddoe, roedd y rhif hwnnw wedi codi i ychydig o dan 490 o achosion wedi’u cadarnhau, a bydd y rhif yna’n codi’n uwch eto heddiw.”

Mae 163 yn rhagor o achosion o Covid-19 eu cofnodi ar draws Cymru, gyda chyfanswm yr achosion ers dechrau’r pandemig yn cynyddu i 214,545, yn ôl ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi yn y 24 awr hyd at fore ddoe am naw, sy’n golygu fod y marwolaethau’n aros ar 5,572.

Mae 2,228,532 o bobol wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn, a 1,473,927 wedi derbyn y ddau ddos.

Llywodraeth Cymru ddim am orfodi gweithwyr gofal i gael eu brechu

“Mae’r teimlad hwnnw o gymryd rhan yn y rhaglen yn wirfoddol yn bwysig iawn i ni, ac wedi bod yn rhan o’n llwyddiant”