Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi Hazel Thomas yn gydlynydd Prosiect Tir Glas ar gampws Llanbedr Pont Steffan.
Nod Canolfan Tir Glas yw hyrwyddo’r diwydiant bwyd lleol, cynaliadwyedd, gwydnwch ac arloesedd mewn cyd-destun gwledig.
Y gobaith yw cryfhau seilwaith economaidd Llanbedr Pont Steffan a’r ardal gan roi ffocws i’r dref a’r ardal o ran hunaniaeth a brand.
Cafodd Hazel Thomas ei geni a’i magu ym mhentref Drefach, ym mhlwyf Llanwenog ger Llanbedr Pont Steffan.
Yn 16 oed symudodd i Lundain i ddilyn cwrs Cogydd Proffesiynol yng Ngholeg San Steffan.
Cafodd ei swydd gyntaf fel cogydd proffesiynol yng Ngwesty Dorchester, Llundain, yn ogystal â chael cynnig swydd fel cogydd yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Yna ar ôl ychydig flynyddoedd symudodd i Gastell Tregenna yn St Ives, Cernyw i weithio fel cogydd proffesiynol.
Yn dilyn profedigaeth bu’n rhaid i Hazel Thomas ddychwelyd adref, a dyma pryd y dechreuodd ei pherthynas â’r Brifysgol pan helpodd fyfyriwr graddedig Athroniaeth, a oedd am aros yn y dref, i agor busnes.
Tra yn aelod o Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan, helpodd i sefydlu ‘Gŵyl Fwyd Llanbedr Pont Steffan’ ym 1998, gyda thîm o ferched.
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad, chwaraeodd Hazel Thomas ran allweddol yn 1999 o ran sicrhau lleoliad newydd ar gyfer yr Ŵyl Fwyd, ar gampws y Brifysgol, a chododd hyn apêl a llwyddiant y digwyddiad.
Ers dychwelyd i Lanbedr Pont Steffan mae Hazel wedi rhedeg dau fusnes arall yn y dref cyn iddi sefydlu ei hun fel Ymgynghorydd Bwyd Annibynnol a Threfnydd Digwyddiadau.
Dros y blynyddoedd, mae hi wedi astudio sawl cwrs gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru, fel Gwyddorau Cymdeithasol, Iechyd a Chlefyd, a Phroblemau Cymdeithasol – Lles Cymdeithasol, cyn defnyddio ei chredydau i gael mynediad i gwrs gradd Cymraeg ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan.
“Anrhydedd fawr”
“Mae bod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn yn anrhydedd fawr,” meddai Hazel Thomas yn dilyn ei phenodiad.
“Mae Prosiect Canolfan Tir Glas yn brosiect hirdymor, ac mae pob elfen o’r weledigaeth yn apelio at fy niddordebau mewn cynaliadwyedd, dim mwy felly na chynaliadwyedd bwyd.
“Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y prosiect yn denu’r gefnogaeth y mae’n ei haeddu.”
“Mantais fawr i’r Brifysgol”
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campysau Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan:
“Mae Canolfan Tir Glas yn brosiect pwysig i’r Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan ac mae penodi Hazel i rôl y cydlynydd yn gam mawr ymlaen o ran gwireddu’r weledigaeth.
“Mae ei chysylltiadau lleol, ei phrofiad sylweddol ynghyd â’i diddordeb ym maes cynaliadwyedd yn ei chyfanrwydd – ac yn benodol y maes cynaliadwyedd bwyd – yn fantais fawr wrth i’r Brifysgol gydweithio â phartneriaid allweddol i ddatblygu Canolfan Tir Glas yn Llanbedr Pont Steffan dros gyfnod o amser.”