Mae yna ymateb cymysg i fesurau dros dro i gau ffyrdd ac atal ceir rhag teithio yng nghanol trefi sir fwyaf Cymru (o ran tiriogaeth), meddai cynghorwyr lleol wrth golwg360.
Fe gafodd y strydoedd eu cau yn rhai o drefi mwyaf Powys er mwyn ei gwneud yn haws i bobol gadw ddau fetr ar wahân yn sgil covid.
Ond bellach mae yna alw am gadw’r drefn newydd mewn lle, er mwyn hyrwyddo ’diwylliant caffe’ ar brif strydoedd y trefi a denu siopwyr fyddai fel arall yn prynu ar y We.
Cafodd y mesurau dros dro eu cyflwyno yn Aberhonddu, y Gelli Gandryll, y Drenewydd, a Chrughywel er mwyn cadw pellter cymdeithasol a hwyluso pethau i fusnesau, drwy ddarparu lle awyr agored i’w cwsmeriaid, a digon o le i gerdded ar balmentydd.
Ddydd Llun nesaf (21 Mehefin) mi fydd Cyngor Sir Powys yn ymgynghori gyda pherchnogion busnesau, trigolion ac ymwelwyr ar ddyfodol y Stryd Fawr, a’r mesurau sydd mewn grym ar hyn o bryd.
“Rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol iawn”
Roedd problemau gyda bywiogrwydd y Stryd Fawr yn bod ymhell cyn y pandemig, meddai un o Gynghorwyr Tref Aberhonddu, ac wrth i fwy o bobol siopa ar-lein, mae’n bwysig mynd at wraidd y broblem.
“Fel lot o lefydd mae mannau parcio Aberhonddu wedi bod ar gau. I rai busnesau, mae hynny wedi cael ei groesawu er mwyn lleoedd gwyrdd, a’r diwylliant caffis – sy’n ffynnu,” meddai Grenville Ham, sy’n gynghorydd tref dros Blaid Cymru yn Aberhonddu.
“Ond lot o wrthwynebiad gan berchnogion busnesau eraill oherwydd eu bod nhw’n meddwl eu bod nhw’n ddibynnol iawn ar bobol yn stopio yn eu ceir. Mae ymateb cymysg iawn wedi bod.
“Maen nhw wedi bod yn siarad am gael gwared ar geir o ganol Aberhonddu ers y 1970au.
“Yn fy marn i, ac mae’n wir mewn unrhyw Stryd Fawr ond yn enwedig mewn trefi gwledig, llai, mae gennym ni’r We i gwffio’n ei erbyn sy’n ddiddiwedd, a bydd hynny’n cynyddu, felly bydden ni’n gweithredu ar gynyddol lai o elw, chynyddol lai o bobol.
“Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol iawn,” pwysleisiodd Grenville Ham wrth golwg360.
“Un o’r pethau dw i wedi’u crybwyll yn y Cyngor Tref yw ein bod ni angen sefydlu hunaniaeth unigryw fel y Gelli Gandryll – llyfrau. Rhywbeth felly.
“Rydyn ni’n le twristaidd ond dyw canol ein tref heb ei defnyddio er twristiaeth. Os ydych chi’n edrych ar drefi eraill, fel yn Ardal y Llynnoedd, mae canol eu trefi yno ar gyfer pwrpas adloniant ac ymlacio.
“Dydi un ni ddim. Mae hi wedi datblygu i’r hyn ydi hi drwy lwc, bron. Does dim strategaeth glir.
“Byswn i’n ffafrio gwneud yr holl le’n addas i gerddwyr, ac yna gwneud pethau’n well drwy sefydlu lleoliadau diwylliannol rhad ac am ddim y gallai pobol dreulio amser ynddyn nhw’n ymlacio, y math yna o beth. Dim pres mawr, ond gallai fod yn drawsnewidiol.”
Angen bod yn “addas i gerddwyr”
“Os ydych chi’n edrych o safbwynt Aberhonddu mae pobol naill ai’n mynd ar-lein, neu’n mynd i Ferthyr, Y Fenni, Caerfyrddin, neu’r Henffordd – maen nhw’n drefi mawr sydd i gyd wedi cael eu gwneud yn addas i gerddwyr,” meddai Grenville Ham.
“Rydyn ni’n cael ein gwasgu. Y peth mwyaf dylem ni ei wneud, yn fy meddwl i, os ydych chi’n edrych ar Aberhonddu mae’r rhan fwyaf o’n safleoedd busnes yn berchen gan bump neu chwe cwmni neu endidau, yr un ohonyn nhw’n arbennig o lleol.
“Ac mae gennym ni rent busnes uchel iawn, iawn.”
Byddai Grenville Ham yn hoffi gweld sefydlu menter gymunedol er mwyn prynu eiddo yn y dref gan greu cartrefi cymdeithasol sydd yn nwylo’r gymuned fel fod pobol leol yn talu rhent fforddiadwy, a chynnig y siopau ar rent cymdeithasol i bobol leol ddechrau busnesau.
“Mae’r gwleidyddion yn dweud mai trethi busnes yw’r broblem, wel dim mewn gwirionedd. Mae’r rent dal yn uwch.
“Maen nhw’n mynd am dair blynedd lle mae ganddyn nhw grantiau busnes, yna maen nhw’n cau.
“Rhaid cael strategaeth tymor hir, ac yn fy meddwl i, bysen i’n creu system rhent gymdeithasol ar gyfer cynnyrch lleol, ac entrepreuners lleol.
“Ac wedyn pwysleisio ar brynu’n lleol, prynwch gan eich ffrindiau – y math yna o beth.
“Nid yn unig rydych chi’n creu ardal adloniant, ond rydych chi’n creu hunaniaeth leol gref. Boed i chi edrych ar gynaliadwyedd, cynnyrch lleol, neu economi gylchol i gadw’r arian yn lleol.
“Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu fod busnesau lleol yn cyflogi mwy i bob punt sy’n cael ei gwario na busnesau sydd ddim yn lleol.
“Fy amheuaeth yw na fydd dim o’r trawsnewidiadau tymor hir hyn yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad gan Bowys, dw i’n eithaf digalon am lefel yr uchelgais y maen nhw’n ei rhannu.”
“Bywiog”
“Ar y cyfan, mae gennym ni nifer o siopau sy’n wag, sy’n achosi pryder. Felly’n amlwg rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr fod canol y dref yn fywiog,” meddai Gareth Ratcliffe, sy’n cynrychioli’r Gelli Gandryll ar Gyngor Sir Powys.
“Fydda i’n cyfarfod â’r Cyngor Tref ar y penwythnos i sicrhau ein bod ni’n cael cymaint o bobol ag yn bosib i gymryd rhan yn ymgynghoriad Cyngor Sir Powys.
“Rydyn ni eisiau sicrhau fod pawb sy’n dod i’r Gelli Gandryll yn teimlo’n saff, ond bod gennym ni ganol tref fywiog wrth i ni fynd ymlaen i’r dyfodol.”
Bydd mesurau dros dro dal i fynd ymlaen yn y Gelli Gandryll tan fis Medi, gyda’r Cyngor Tref yn monitro’r broses, esboniodd Gareth Ratcliffe, sy’n cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’r camau wedi cael eu hadolygu nes mis Gorffennaf, gyda’r ffordd ar gau ar ddydd Iau a dydd Sadwrn.
“Fe wnaeth y Cyngor Tref gynnal ymgynghoriad ac maen nhw’n edrych ar unrhyw newidiadau ond rydyn ni’n disgwyl am ganllawiau gan Gyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru,” meddai gan ddweud ei fod e wedi gofyn i Gyngor Sir Powys am arweiniad i gynghorau tref a chyngorau lleol ers dros fis ond heb dderbyn ymateb.
Pryderon
“Mae rhai pobol yn llawn ymroddedig i’r cyfyngiadau, ac eraill yn pryderu amdanyn nhw, yn enwedig o ran mynediad i bobol ag anableddau, a hefyd i bobol gael mynediad at wasanaethau fel y cemist a’r cigydd ar adegau pan mae’r ffordd ar gau,” meddai Gareth Ratcliffe wrth drafod yr ymateb i’r mesurau yn y dref.
“Mae yna farn gymysg gref, mae rhai yn cefnogi’n llawn, ac eraill yn poeni amdano a’r effaith fydd e’n cael ar wasanaethau, a mynediad at wasanaethau hanfodol yn y dref.
“I fi, mae e’n ymwneud ag ymgysylltu rŵan, a gwneud yn siŵr ein bod ni’n clywed lleisiau cymaint o bobol â phosib.
“Nid y bobol sy’n gweiddi uchaf, ond y rhai sydd eisiau gweld pethau’n newid neu’n aros yr un fath. Rydyn ni angen y sgwrs, a dw i’n falch o weld fod Powys yn gwneud hynny.”