Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu penderfyniad Estyn a Llywodraeth Cymru i atal arolygiadau ysgol eleni.
Daw hyn ar ôl i Ysgrifennydd Addysg Cymru gyhoeddi mesurau er mwyn lleddfu’r pwysau posibl ar y system addysg.
Y bwriad ydi lleihau baich gweinyddol ysgolion a galluogi dull mwy unigol o gefnogi pobol ifanc.
Mae’r mesurau yn cynnwys atal rhaglen arolygu graidd Estyn ar gyfer ysgolion ac unedau atgyfeirio disgyblion ar gyfer tymor yr hydref eleni, a threialu dull newydd o arolygu, gyda chytundeb ysgolion, yn y gwanwyn.
Fydd perfformiadau ysgolion ddim yn cael eu mesur yn 2021/22, a fydd ysgolion ddim yn cael eu categoreiddio yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Yn ogystal, bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno sy’n llacio gofynion adrodd ysgolion ar gyfer 2020/21.
“Wrth i ni adfer ar ôl y pandemig, gan weithio tuag at gyflawni’r cwricwlwm newydd, rydw i eisiau adeiladu ar yr arloesi, yr hyblygrwydd a’r ffocws ar les sydd wedi ein helpu ni drwy’r cyfnod hwn o darfu,” meddai Jeremy Miles.
“Mae’r camau a gyhoeddwyd heddiw’n adeiladu ar yr ystod o fesurau rydyn ni eisoes wedi’u rhoi ar waith eleni i leddfu pwysau a darparu hyblygrwydd.”
“Sicrhau cydbwysedd”
Dywedodd Estyn mewn datganiad: “Rydym yn ymestyn cyfnod atal ein rhaglen arolygu craidd ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion i gynnwys tymor yr hydref 2021.
“Rydym yn cydnabod bod y flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn anodd a heriol i lawer o ddysgwyr a’u teuluoedd ac i ddarparwyr addysg a’u staff.
“Yn ystod gweddill tymor yr haf, byddwn yn gofyn am eich adborth ar ein trefniadau arolygu newydd.
“Byddwn yn ystyried gyda Llywodraeth Cymru’r ffordd orau o sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith ymgysylltu ac arolygu i gefnogi’r daith tuag at y Cwricwlwm i Gymru.”
“Blwyddyn anarferol”
“Rwy’n croesawu penderfyniad Estyn i atal arolygiadau ysgol am weddill 2021.” meddai’r Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Addysg.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn anarferol tu hwnt,”
“Gan ystyried y pwysau aruthrol ar ein hysgolion, mi fyddai wedi bod yn andros o anodd i asesu ysgolion yn deg yn y ffordd arferol yn ystod y cyfnod hwn.
“Mae athrawon a staff ysgol wedi addasu yn ddeheuig ac yn arwrol i ofynion yr ymateb i’r pandemig er mwyn helpu i gwrdd ag anghenion dysgwyr, a byddan nhw’n parhau i gefnogi dysgwyr mewn amgylchiadau sy’n parhau i fod yn anodd.”