Mae cynnig i droi adeilad yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, yn uned drochi Gymraeg wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir Powys.
Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sydd hefyd yn llywodraethwr ysgol ym Mro Hyddgen, wedi cyflwyno cynigion ar sut i ddefnyddio’r adeilad chweched dosbarth, Canolfan Hyddgen, yn y dyfodol.
Agorwyd yr adeilad chweched dosbarth presennol gan gyn Brif Weinidog Cymru, y diweddar Rhodri Morgan, yn ôl yn 2009, ac mae’n un o adeiladau ecogyfeillgar cyntaf Passivhaus yng Nghymru.
Ysgol Cyfrwng Cymraeg
Mae hysbysiad statudol newydd gael ei gyhoeddi i fwrw ymlaen â’r cynnig gan y cyngor i newid statws categori iaith yr ysgol i ysgol gyfrwng Cymraeg.
Cytunwyd ar gynlluniau hirsefydlog ar gyfer adeilad newydd ar gyfer yr ysgol y llynedd, a bydd y prosiect a fydd yn costio cyfanswm o £48.25 miliwn hefyd yn cynnwys llyfrgell a chanolfan hamdden newydd yn lle Canolfan Hamdden bresennol Bro Dyfi.
Mae Elwyn Vaughan yn hapus iawn â’r datblygiad yma, ac mae’n ei gweld yn gam calonogol i’r iaith ym Mhowys. Ond, gan siarad â Golwg360 bythefnos yn ôl, dywedodd mai megis dechrau yw hynny, yn ei farn yntau.
“Yn hanesyddol mae Powys wedi bod ar ei hôl hi,” meddai. “A dyna ydy rhan o’r broblem.
“Yn 2011 ac yn 2019, mi feirniadwyd Powys gan Estyn am y diffyg sy’n mynd ymlaen. Mae angen rhwydwaith.
“Hoffwn i weld tair ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhowys. A dw i’n meddwl mai dyna yw’r nod a’r weledigaeth dros y blynyddoedd nesaf.”
“Hunaniaeth glir i’r adeilad”
O ran ei gynigion diweddaraf, dywedodd y Cynghorydd Vaughan: “Gyda’r ysgol newydd bydd yr adeilad hwn [Canolfan Hyddgen] yn rhydd.
“Felly, rydym wedi bod yn ystyried defnyddiau amgen [ar ei gyfer].
“Y cynnig yw ei wneud yn ganolfan ar gyfer amrywiaeth o brosiectau a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, i gyd o dan yr un to.”
Rhestrodd y Cynghorydd Vaughan sawl opsiwn ar gyfer yr adeilad sy’n cynnwys: yr uned trochi iaith, canolfan ar gyfer cyrsiau dysgu Cymraeg Prifysgol Cymru, a chartref posibl i Fenter Iaith Cymru a Menter Maldwyn.
Dywedodd y Cynghorydd Vaughan: “Byddai hyn yn sicrhau hunaniaeth glir i’r adeilad, mae mewn sefyllfa mor dda i wasanaethu ardal fawr o ogledd Powys, Gwynedd a Cheredigion a gallai fod yn ganolfan ar gyfer clwstwr o fentrau cyflenwol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: “Rydym yn ymwybodol bod y Cynghorydd Vaughan wedi cyflwyno cynnig ar gyfer defnyddio Canolfan Hyddgen ym Machynlleth yn y dyfodol fel canolfan Gymraeg ac uned drochi, a bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r datblygiadau parhaus yn yr ysgol.”