Mae Syr Jeffrey Donaldson wedi cadarnhau ei fod yn ymgeisio i fod yn arweinydd nesaf y DUP.

Mae’n ymddangos mai Aelod Seneddol Lagan Valley fydd yr unig ymgeisydd yn y ras i olynu Edwin Poots a oedd wedi ymddiswyddo ar ôl tair wythnos yn unig yn y swydd.

Mewn datganiad, dywedodd Syr Jeffrey Donaldson ei fod yn optimistaidd am y dyfodol ond yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd.

Mae wedi galw am undod i wrthwynebu Protocol Gogledd Iwerddon ac wedi rhoi addewid i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “cydnabod yr angen i weithredu i ddelio’n gyflym gyda’r protocol”.

“Heb os, bydd methu â gweithredu yn arwain at ganlyniadau i sefydlogrwydd ein sefydliadau gwleidyddol a ffyniant ein heconomi.”

Ychwanegodd mai dyma’r “mater mwyaf pwysig sy’n wynebu ein gwlad, ein pobl a’r lle o fewn y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd y prif weinidog Paul Givan y byddai’n rhoi ei gefnogaeth lawn i Syr Jeffrey Donaldson os yw’n dod yn arweinydd y DUP.

Mae Syr Jeffrey Donaldson wedi galw ar y DUP i uno yn dilyn cyfnod cythryblus yn hanes y blaid dros y ddeufis diwethaf – roedd yr arweinydd Arlene Foster wedi ymddiswyddo yn dilyn gwrthwynebiad i’w harweinyddiaeth ac fe adawodd Edwin Poots ar ôl tair wythnos yn y rôl.

Fe fydd yr ymgeisyddiaeth am arweinyddiaeth y DUP yn cau am hanner dydd heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 22).