Mae Aelodau Seneddol wedi honni fod defnyddio terminoleg fel “braint pobol wyn” wedi cyfrannu tuag at “esgeuluso systemig” yn erbyn disgyblion gwyn dosbarth gweithiol sydd angen cefnogaeth.
Yn ôl Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Addysg, dylai ysgolion ystyried a yw defnyddio terminoleg “sy’n wleidyddol ddadleuol” yn gyson â’u dyletswyddau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae disgyblion gwyn sydd angen cefnogaeth wedi cael eu gadael lawr gan bolisïau “dryslyd”, ac mae Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â chydnabod hyd a lled y broblem, meddai’r adroddiad.
Er mwyn gwella canlyniadau disgyblion gwyn dosbarth gweithiol, mae’r Aelodau Seneddol yn awgrymu dod o hyd i “ffordd well i drafod anghyfartaledd hiliol” er mwyn osgoi rhoi un grŵp yn erbyn y llall.
Cytunodd y pwyllgor gyda sylw’r Comisiwn ar Hil ac Anghydraddoldeb Ethnig fod y drafodaeth o amgylch y term “braint pobol wyn” yn gallu “peri rhwygiadau”.
Mae Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi dweud nad ydyn nhw’n deall pam fod y Pwyllgor wedi gwneud sylwadau am y ddadl ynghylch adroddiad y Comisiwn ar Hil ac Anghydraddoldeb Ethnig, ac nad yw hynny, na chyfeirio at y term “braint pobol wyn”, yn “ymddangos yn ddefnyddiol”.
Yr adroddiad
Dylai hybiau teuluol gael eu cyflwyno dros y wlad er mwyn cynyddu cysylltedd rhieni a lleihau effaith anfanteision dros sawl cenhedlaeth, awgryma’r adroddiad.
Yn ôl yr adroddiad, dylai’r cronfeydd gael eu haddasu ar lefel leol, gan ganolbwyntio ar ddenu athrawon da i ardaloedd heriol, a hybu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol.
Mae’r adroddiad yn dangos fod 47% o ddisgyblion gwyn sy’n cael prydau ysgol am ddim yng ngwledydd Prydain heb gyrraedd y disgwyliad o ran safon eu datblygiad erbyn diwedd y cyfnod sylfaen yn 2018/19.
Yn 2019, dim ond 17.7% o’r plant hynny wnaeth basio TGAU Saesneg a Mathemateg gyda graddau uchel, o gymharu â 22.5% o’r holl ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.
Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd yr Aelodau Seneddol fod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y canrannau, ac nid ydyn nhw’n credu honiad yr Adran Addysg fod y bwlch yn deillio o dlodi’n unig.
“Gadael lawr”
“Ers degawdau mae disgyblion gwyn dosbarth gweithiol wedi cael eu gadael lawr a’u hesgeuluso gan system addysg sy’n condemnio nhw i ddisgyn tu ôl i’w cyd-ddisgyblion ar bob cam o’r ffordd,” meddai Robert Halfon, yr Aelod Seneddol Ceidwadol sy’n cadeirio’r Pwyllgor.
“Mae disgyblion gwyn dosbarth gweithiol yn tanberfformio’n sylweddol o gymharu â grwpiau ethnig eraill, ond mae yna feddylfryd dryslyd wedi bod gan bob llywodraeth a diffyg sylw a gofal i helpu’r disgyblion gwyn sydd angen cefnogaeth mewn trefi ar draws ein gwlad.
“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am gau’r bwlch cyrhaeddiad yn gyffredin, yna ni ellir anwybyddu’r problemau mae’r grŵp mwyaf o ddisgyblion sydd angen cefnogaeth yn eu hwynebu ddim hirach.
“Byth eto y dylen ni ddweud mai tlodi’n unig sy’n gyfrifol am y bwlch, o ystyried ein bod ni’n gwybod fod disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim o grwpiau ethnig eraill yn gwneud yn well na’u cyd-ddisgyblion gwyn yn gyson.”
“Ddim yn ddefnyddiol”
“Dydyn ni ddim wir yn siŵr pam fod y pwyllgor wedi penderfynu dod yn rhan o’r ddadl ynghylch yr adroddiad gan y Comisiwn ar Hil ac Anghydraddoldeb Ethnig,” meddai Geoff Barton, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau.
“Dyw hyn ddim yn ymddangos yn ddefnyddiol, ac mae’n debyg o dynnu’r sylw oddi ar weddill yr adroddiad.
“Mae ysgolion yn ymwybodol iawn o’u cyfrifoldebau ac maen nhw’n gwneud gwaith da iawn yn cynnig cyfleoedd i drafod materion mewn ffordd sensitif, gytbwys, a chyson.”
“Lefelu’r cyfleoedd”
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod y “Llywodraeth yn canolbwyntio ar lefelu’r cyfleoedd fel nad yw’r un person ifanc yn cael ei adael ar ôl.
“Dyna pam ein bod ni’n cynnig y cynnydd mwyaf i gyllid ysgolion mewn degawd – £14 biliwn dros dair blynedd – gan fuddsoddi mewn addysg blynyddoedd cynnar a thargedu ein cyllid adfer uchelgeisiol, sydd werth £3 biliwn erbyn hyn, er mwyn cefnogi disgyblion difreintiedig rhwng dwy a 19 oed gyda’u cyrhaeddiad.”