Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cynlluniau i alluogi pobol sydd wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn i deithio dramor heb orfod hunanynysu.

Yn ôl Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd y Deyrnas Unedig, mae gweinidogion yn ystyried sut i gael gwared ar yr angen i hunanynysu am ddeng niwrnod wrth ddychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr oren.

Dywedodd ei fod “o blaid symud ymlaen gyda’r mater yma” gan gyfnewid hunanynysu am brofion dyddiol.

“Dyw hyn heb gael ei gynghori’n glinigol eto – rydyn ni’n gweithio arno,” meddai Matt Hancock wrth Sky News.

“Rydyn ni’n gweithio ar gynlluniau, yn y bôn, i ganiatáu i’r brechlyn ddod â pheth o’r rhyddid, sydd wedi cael ei atal er mwyn cadw pobol yn sâff, yn ei ôl.

“Wedi’r cyfan, dyna holl bwrpas y rhaglen frechu, dyna pam ei bod hi mor bwysig fod pob oedolyn yn cael y brechlyn.”

“Gofalus”

Wrth siarad gyda LBC, dywedodd Matt Hancock fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymddwyn yn “ofalus ynghylch teithio rhyngwladol” er mwyn diogelu’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni’n gweithio ar gynllun i bobol sydd wedi cael dau frechlyn, defnyddio profion, a sefydlu’r rhaglen brofi honno, yn hytrach na gorfod hunanynysu mewn rhai sefyllfaoedd.

“Rydyn ni’n gweithio gyda chlinigwyr, oherwydd rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr fod y cynllun yn ddiogel, felly alla’i ddim rhoi dyddiad i chi, ond beth alla’i ddweud wrthych chi yw fy mod i o blaid symud ymlaen gyda’r mater yma.”

Trafferthion ac oedi

Fe wnaeth Boris Johnson wadu awgrymiadau y byddai cyfyngiadau ar deithio dramor yn codi ddoe (21 Mehefin).

“Dw i eisiau pwysleisio y bydd hon – beth bynnag sy’n digwydd – yn flwyddyn anodd i deithio,” meddai’r Prif Weinidog.

“Bydd yna drafferthion, bydd yna oedi, mae arna’i ofn, oherwydd mae’n rhaid i’r flaenoriaeth fod ar gadw’r wlad yn ddiogel a stopio’r feirws rhag dod yn ôl mewn.”

Ers symud Portiwgal at y rhestr oren, does yna’r un lleoliad twristaidd traddodiadol ar y rhestr werdd – gyda Sbaen, yr Eidal, Ffrainc, a Groeg ar y rhestr oren hefyd.

Mae Grŵp Meysydd Awyr Manceinion a Ryanair, sy’n berchen ar feysydd awyr Manceinion, Stanstead, a Dwyrain Canolbarth Lloegr, yn paratoi ar gyfer her gyfreithiol yn galw am fwy o dryloywder ynghylch sut mae San Steffan yn penderfynu pa wledydd sydd ar ba restr.

Mae Mark Drakeford wedi annog pobol yng Nghymru i fynd ar wyliau o fewn y wlad eleni, a dywedodd y Gweinidog Iechyd ddoe na fydd cefnogwyr Cymru’n cael mynediad i’r Iseldiroedd er mwyn gwylio Cymru’n herio Denmarc yn rownd yr 16 olaf yn yr Ewros dydd Sadwrn (26 Mehefin).