Roedd benthyciadau’r Llywodraeth wedi gostwng ym mis Mai wrth i lacio’r cyfyngiadau clo hybu adferiad economaidd gwledydd Prydain, a chynyddu refeniw treth, yn ôl ffigurau swyddogol.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod benthyciadau’r Llywodraeth yn £24.3 biliwn ym mis Mai, o’i gymharu â £43.8 biliwn flwyddyn ynghynt pan oedd y pandemig ar ei anterth.
Roedd ail-agor lletygarwch dan do ar Fai 17, wedi rhoi hwb i’r economi.
Syrthiodd gwariant y llywodraeth ym mis Mai £10.9 biliwn i £81.8 biliwn, yn ôl y ffigurau.
Ond dywedodd yr ONS, er gwaethaf y cwymp o flwyddyn i flwyddyn, roedd benthyciadau dal yr ail uchaf ym mis Mai ers i gofnodion ddechrau, a £18.9 biliwn yn fwy nag ym mis Mai 2019 cyn i’r pandemig ddechrau.
Bellach mae swm dyled y Llywodraeth yn £2.2 triliwn ar ddiwedd mis Mai, neu oddeutu 99.2% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP).
Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi addo eto i “gael y cyllid cyhoeddus ar sylfaen gynaliadwy.”
“Dyna pam yn y Gyllideb ym mis Mawrth y nodais y camau anodd ond angenrheidiol yr ydym yn eu cymryd i gadw dyled dan reolaeth yn y blynyddoedd i ddod,” ychwanegodd.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn cymorth sylweddol i helpu cartrefi a busnesau yn ystod y pandemig gyda mesurau’n werth cyfanswm o £350 biliwn ers dechrau’r argyfwng ym mis Mawrth y llynedd.
Mae’n golygu bod gwariant y Llywodraeth o ddydd i ddydd wedi cynnydd o £204.2 biliwn i £942.6 biliwn.