Mae cannoedd o weithwyr y DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau) yn Abertawe wedi mynd ar streic eto yn sgil ffrae dros amodau gwaith yn y swyddfa a diogelwch Covid.

Bydd aelodau’r undeb PCS (Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol) ar streic rhwng heddiw (22 Mehefin) a dydd Iau.

Mae’r undeb yn rhybuddio y bydd y gweithredu’n mynd yn ei flaen am fisoedd, oni bai fod y ddadl yn cael ei datrys.

Galwa’r undeb am leihau nifer y staff sy’n gorfod gweithio yn y swyddfa, er bod y DVLA yn dweud fod mesurau wedi’u sefydlu i sicrhau fod gweithwyr yn sâff a’u bod nhw’n dilyn canllawiau swyddogol.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, Mark Serwotka, nid oes gan y DVLA nag Adran Drafnidiaeth y Deyrnas Unedig ddiddordeb mewn datrys y ddadl.

Mae e hefyd wedi cyhuddo’r rheolwyr o gyflogi contractwyr er mwyn gwneud gwaith yr aelodau sydd ar streic.

“Tanamcangyfrif penderfynoldeb”

“Gallai’r gost o ddefnyddio contractwyr i wneud gwaith staff y DVLA gael ei ddefnyddio i ddatrys y ddadl, ynghyd â rhoi’r fargen wreiddiol yn ôl ar y bwrdd,” meddai Mark Serwotka.

“Yn hytrach, mae arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu i geisio tanseilio ein streic gyfreithlon.

“Bydd gweithredu wedi’i dargedu yn parhau yn y DVLA am fisoedd oni bai bod y fargen wreiddiol, a oedd wedi’i chytuno arni mewn egwyddor gan y ddwy ochr, yn ôl ar y bwrdd.

“Mae uwch-reolwyr y DVLA wedi tanamcangyfrif yn ddirfawr benderfynoldeb ein haelodau sydd am weld datrysiad cyfiawn i’r ddadl hon.”

“Allwn ni ddim stopio”

“Yn sgil gweithredu parhaus, gyda’r PCS yn targedu ein hadran argraffu a dosbarthu, byddwn ni’n defnyddio cyflenwr allanol sy’n bodoli eisoes er mwyn argraffu a dosbarthu rhai o’n llythyrau,” meddai llefarydd ar ran y DVLA.

“Bydd hyn yn caniatáu i ni allu parhau ag argraffu a phostio dogfennau hanfodol megis trwyddedau gyrru, dogfennau cerbydau, a llythyrau ynghylch brechlynnau tra’r ydyn ni’n rheoli [hynny] ar ran sawl un o ymddiriedolaethau y Gwasanaeth Iechyd, yn ystod yr amhariad dros dro hwn.

“Gyda’r PCS yn dewis streicio, a thargedu’r gwasanaethau fydd yn cael yr effaith fwyaf negyddol ar y cyhoedd, mae’n rhaid i ni barhau i ddod o hyd i ffyrdd i gyflwyno’n gwasanaethau i’n cwsmeriaid, lle gallwn ni – allwn ni ddim stopio argraffu a phostio dogfennau hanfodol nawr.

“Mae miliynau o bobol ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhai o’r bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas, yn dibynnu ar wasanaethau hanfodol y DVLA, a bydd gofynion y PCS yn amharu’n sylweddol ac yn ddiangen ar deuluoedd a busnesau ar adeg pan fo’u hangen fwyaf.”