Mae Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi lambastio Plaid Cymru gan ddweud nad oedd gan y blaid strategaeth yn yr etholiadau diwethaf, ac nad Adam Price yw’r person iawn i arwain y blaid.
Daw hyn yn dilyn perfformiadau gwael Plaid Cymru yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu Cymru.
Er i’r blaid ennill un sedd ychwanegol yn y Senedd, fe ddisgynnon nhw y tu ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig a enillodd bum sedd a chodi ei gyfanswm i 16 o aelodau – tri yn fwy na Phlaid Cymru.
Cafodd Arfon Jones ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar ran Plaid Cymru yn 2016, ar ôl gyrfa gyda’r heddlu, a hynny â mwyafrif sylweddol o 25,000.
Cyhoeddodd nad oedd am sefyll eto ym mis Ionawr, a’r Llafurwr Andy Dunbobbin sydd bellach yn y swydd ar ôl iddo drechu ymgeisydd Plaid Cymru, Ann Griffiths.
‘Dim strategaeth’
Dywedodd Arfon Jones wrth golwg360 nad oedd gan y blaid strategaeth yn yr etholiadau hyn, a bod ymgeiswyr wedi llwyddo oherwydd eu “gweithgarwch eu hunain” yn hytrach na chefnogaeth gan y blaid.
“Dw i ddim yn meddwl fod yno strategaeth wedi bod, a dweud y gwir,” meddai.
“Dydyn ni heb gael dim cefnogaeth o’r canol yng Nghaerdydd, a’r rheswm wnaeth rhai ymgeiswyr mor dda oedd oherwydd eu gweithgarwch eu hunain ac nid oherwydd y gefnogaeth gan y Blaid.
“Mae hi’n amser i ni gael y drafodaeth yma, a dydyn ni methu ei chael hi’n fewnol.
“Rydan ni wedi cael pwyllgor gwaith a chyngor cenedlaethol a dydy methiannau’r etholiad ddim wedi cael eu trafod yn yr un ohonyn nhw.
“Dw i’n gwybod bod Dafydd Trystan (Davies) yn ymchwilio i’r methiannau yma ac mae disgwyl i rywbeth gael ei gyhoeddi ym mis Medi.
“Ond dw i’n meddwl y dylia ni gael y drafodaeth rŵan cyn iddi fynd yn ‘O, mae popeth yn iawn’ ac ein bod ni’n gwneud yr un fath yn yr etholiad nesaf eto.”
Datganoli adnoddau
Hoffai Arfon Jones weld Plaid Cymru yn “datganoli adnoddau” i ganghennau’r Blaid ar lawr gwlad ac mae’n dweud y byddai’r blaid yn cael mwy o lwyddiant pe baen nhw’n gwneud hynny.
“Mi fasa hynna yn galluogi iddyn nhw adeiladu infastructure eu hunain,” meddai.
“Rydan ni wedi bod yn eithaf llwyddiannus yn Wrecsam drwy adeiladu strwythur ein hunain, ac rydan ni wedi gwneud hynny heb fymryn o gefnogaeth gan Gaerdydd na’r arweinyddiaeth.
“Fe gymerodd hi ddwy flynedd, os nad mwy, i Adam Price ymweld â ni fel canghennau yng ngogledd-ddwyrain Cymru a dydy hynny ddim digon da.”
‘Adam Price ddim y dyn iawn i arwain’
Ydi Arfon Jones yn credu mai Adam Price yw’r person iawn i arwain Plaid Cymru?
“Dw i ddim yn meddwl yn bersonol,” meddai.
“Dw i’n gwybod bod yno rai pobol sydd dal yn gefnogol iddo fo, ond peth arall ydi hynna.
“Mae hi i fyny i’r aelodaeth i benderfynu ar bwy y maen nhw eisiau fel arweinydd.
“Ond na, dw i ddim yn meddwl mai fo ydi’r person i’n symud ni ymlaen.”
‘Angen cefnogi ymgeiswyr’
“Mae hi’n ddigon hawdd gofyn i rywun sefyll dros y blaid ac wedyn rhoi dim cefnogaeth iddyn nhw,” meddai wedyn, wrth droi’n ôl at strategaeth y blaid.
“Ond dim fel yna rydan ni’n mynd i gael pobol i sefyll drosom ni.
“Os ydan ni am gael pobol i sefyll dros y blaid, maen nhw angen cefnogaeth.”
Ond ydi Arfon Jones yn rhagweld y bydd yno newid mewn agwedd o fewn arweinyddiaeth y blaid?
“Mae hi fyny iddyn nhw rŵan, maen nhw’n gwybod bod yno anniddigrwydd o fewn yr aelodaeth ar lawr gwlad a chyn-aelodau etholedig.
“Felly mae angen i rywun gael gafael ar bethau a dechrau adfywio’r blaid.”
“Argymhellion adeiladol”
Wrth ymateb i sylwadau Arfon Jones, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth golwg360: “Mae’r cyfnod ôl-etholiad yn gyfle pwysig i Blaid Cymru adlewyrchu ar yr ymgyrch a fu ac edrych ymlaen at etholiadau lleol 2022.
“Fe fydd adolygiad Dafydd Trystan yn cyfoethogi’r gwaith hwn ac edrychwn ymlaen at dderbyn unrhyw argymhellion adeiladol maes o law.”