Mae’r ystadegau diweddaraf yn awgrymu fod 88.7% o oedolion Cymru’n cynhyrchu gwrthgyrff Covid-19 yn yr wythnos yn dechrau ar 7 Mehefin.

Mae’r ganran hon yn gyfystyr â wyth ymhob deg oedolyn, ac mae presenoldeb gwrthgyrff yn awgrymu fod y person wedi cael ei frechu neu wedi cael y feirws yn y gorffennol.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae yna batrwm clir rhwng brechlynnau a phrofi’n bositif am wrthgyrff, ond nid yw’n fesur manwl o’r imiwnedd sy’n cael ei gynnig gan y brechlyn.

Mae ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru wedi dweud fod angen i 80% o’r holl boblogaeth gael imiwnedd cyn bod amrywiolyn Delta yn stopio lledaenu.

Ystadegau

Yn yr wythnos yn dechrau ar 7 Mehefin, roedd canran uwch o oedolion yng Nghymru yn cynhyrchu gwrthgyrff nag yng ngweddill gwledydd y Deyrnas Unedig.

Yn ôl amcangyfrifon, roedd 86.6% o oedolion yn Lloegr yn cynhyrchu gwrthgyrff, 85.4% yng Ngogledd Iwerddon, a 79.1% yn yr Alban.

Dangosa’r data fod y ganran o bobol rhwng 16 a 49 oed yng Nghymru sy’n profi’n bositif ar gyfer gwrthgyrff yn parhau i gynyddu, a bod y ganran yn aros yn uchel ar gyfer pobol dros 50 oed.

Mae’r ganran o bobol sy’n profi’n bositif yn cynyddu gydag oed, gan adlewyrchu blaenoriaethau’r rhaglen frechu.

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod 58.3% o bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed yn cynhyrchu gwrthgyrff yng Nghymru yn yr wythnos yn dechrau ar 7 Mehefin, a 79.9% o bobol rhwng 25 a 34 yn profi’n bositif am wrthgyrff.

Mae’r ganran dros 90% ar gyfer pob grŵp oedran dros 35 oed, gan gynyddu wrth i’r oed gynyddu nes cyrraedd 99.5% ar gyfer pob grŵp dros 70 oed.

Wrth fesur y gwrthgyrff dros amser yn ôl oedran, mae’n bosib gweld effaith y rhaglen frechu rhwng y dos cyntaf a’r ail.

Ym mis Mawrth 2021, fe wnaeth lefelau profi’n bositif am wrthgyrff leihau ymhlith pobol dros 80 oed, ond ers hynny mae’r ganran wedi cynyddu yn sgil yr ail ddosys.

Gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer pobol yn eu 70au ar ddiwedd Mawrth 2021, ac ar gyfer pobol yn eu 60au a’u 50au aeth y lefelau positifrwydd yn fwy gwastad cyn codi eto ym mis Ebrill a mis Mai.