Bydd prosiectau ar gyfer adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu rhewi wrth i adolygiad i gynlluniau priffyrdd Cymru gael ei gynnal.
Fe fydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn gwneud y cyhoeddiad mewn datganiad llafar i’r Senedd brynhawn heddiw (22 Mehefin).
Mae disgwyl i’r adolygiad ystyried sut mae posib symud gwariant tuag at gynnal ffyrdd presennol yn well, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd.
Bydd gwaith sydd eisoes wedi dechrau ar ffyrdd yn cael parhau, megis ar ffordd osgoi Caernarfon a ffordd Blaenau’r Cymoedd.
Ond mae’n golygu oedi mewn cynlluniau megis adeiladu trydedd bont dros y Fenai i Ynys Môn, a ffordd osgoi Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r penderfyniad gan ddweud y bydd yn “ergyd sylweddol i’n hadferiad.”
“Rhaid gwneud mwy”
Yn ôl Lee Waters, mae’n “rhaid gwneud mwy o lawer” i leihau allyriadau os am gyrraedd y targed Sero-Net erbyn 2050.
Dros y ddeng mlynedd nesaf rhaid sicrhau fwy na dwywaith y toriadau gafodd eu gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf i gadw’r tymheredd ar lefel ddiogel, meddai.
Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr holl fuddsoddiadau arfaethedig mewn ffyrdd, y rhai sy’n cael eu hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a’r rhai sy’n cael eu hariannu’n anuniongyrchol gan grantiau.
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn dangos sut mae’r llywodraeth am weithredu ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a bydd Llywodraeth Cymru’n penodi panel allanol i gynnal yr adolygiad.
Bydden nhw’n gofyn i’r Panel ystyried creu profion ar gyfer penderfynu pryd mai adeiladu ffyrdd newydd yw’r ateb cywir, gan wneud hynny’n unol â Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru.
“Buddsoddi” i roi dewis “go iawn” i bobol
“Ers 1990, mae allyriadau Cymru wedi gostwng 31%. Ond i gyrraedd ein targed statudol o allyriadau Sero-Net erbyn 2050, rhaid gwneud mwy o lawer,” bydd Lee Waters yn dweud wrth y Senedd.
“Yn y 10 mlynedd nesaf, bydd angen i ni sicrhau fwy na dwywaith y toriadau gafodd eu gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf os ydym am gadw’r cynnydd yn y tymheredd o fewn terfynau diogel.
“Bydd hynny’n golygu gwneud newidiadau ym mhob rhan o’n bywydau. Trafnidiaeth sydd i gyfrif am ryw 17% o’n holl allyriadau, felly rhaid iddi chwarae ei rhan.
“Rhaid i ni roi’r gorau i wario arian ar brosiectau sy’n annog mwy o bobl i yrru, a gwario mwy o arian ar gynnal a chadw ein ffyrdd a buddsoddi mewn pethau fydd yn rhoi dewis go iawn i bobl.”
“Ergyd sylweddol”
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig Natasha Asghar AS: “Ar adeg economaidd mor anodd, gallai’r penderfyniad hwn fod yn ergyd sylweddol i’n hadferiad.
“Nid yw llawer o ffyrdd ledled Cymru yn addas at y diben ac wedi cael effaith niweidiol ar ein heconomi, yr amgylchedd a diogelwch y cyhoedd. Mae tagfeydd traffig rheolaidd yn atal buddsoddiad ac wedi cyfrannu at rywfaint o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU.
“Mae gweinidogion yn ymddangos yn benderfynol o adael i’n ffyrdd ddirywio a gorfodi pawb ar drafnidiaeth gyhoeddus, er gwaethaf amheuon mawr ynghylch gallu’r rhwydwaith yng Nghymru i ymdopi ar ôl blynyddoedd o reolaeth wael a thanfuddsoddi gan Lafur.
“Mae gweithwyr a busnesau Cymru angen mwy o wybodaeth ar frys am sgôp yr adolygiad a bwriadau tymor hir Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer ein seilwaith trafnidiaeth.”