Mae’r awdurdodau wedi penderfynu peidio adolygu marwolaeth Mavis Bran, dynes oedd yn honni i’w gŵr ei llosgi ag olew yn dilyn ffrae yn eu siop sglodion yn Sir Gaerfyrddin yn 2018.

Bu farw Mavis Bran, 69, chwe niwrnod ar ôl cael ei llosgi ar 46% o’i chorff yn dilyn y digwyddiad ym mhentref Hermon.

Roedd hi’n honni bod ei gŵr wedi ymosod arni â pheiriant ffrio sglodion, ond cafwyd e’n ddieuog o’i llofruddio ac o’i dynladdiad pan aeth gerbron Llys y Goron Abertawe yn 2019.

Clywodd y llys ei bod hi wedi ei “ofni” y byddai’n ei lladd hi.

Roedd hi wedi ffonio’i ffrind Caroline Morgan yn dweud bod ei gŵr wedi taflu olew drosti a bod angen cymorth arni.

Cafodd ei ffrind hyd iddi’n fuan wedyn “mewn sioc” ac yn “crynu”.

Clywodd y llys fod pobol oedd yn eu hadnabod yn credu bod gan y ddau “dymer” a’u bod nhw “bob amser yn dadlau”.

Fe ddaeth i’r amlwg fod Mavis Bran wedi bod yn yfed alcohol ar adeg yr ymosodiad, a bod lefel yr alcohol yn ei gwaed dair gwaith yn fwy na’r terfyn ar gyfer gyrru.

Dywedodd Geoffrey Bran ei bod hi “wedi drysu” wrth roi’r bai arno fe am y digwyddiad, ac nad oedd e’n gallu esbonio pam nad oedd e wedi ffonio ambiwlans ar ôl iddi gael ei llosgi ac wedi dychwelyd i’r siop i weini cwsmeriaid.

Dywedodd ei fod e’n credu bod ei wraig wedi gollwng y peiriant ffrio sglodion arni hi ei hun ar ôl iddi lithro.

Adolygiad

Daeth daeth cadarnhad heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 22) na fydd grŵp aml-asiantaeth sy’n cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal adolygiad o lofruddiaeth yn y cartref.

Gall adolygiad o’r fath gael ei gynnal yn dilyn honiadau o lofruddiaeth yn y cartref er mwyn penderfynu a all amgylchiadau’r digwyddiad helpu i atal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol ac a oes modd gwella ymateb gwasanaethau i ddioddefwyr.

Does dim rhaid bod llys yn cael rhywun yn euog o lofruddiaeth er mwyn cynnal yr adolygiad.

Mae teulu Mavis Bran wedi cael gwybod am y penderfyniad, ac mae’r grŵp wedi argymell fod gweithgor yn edrych ar welliannau posib a allai godi o’r achos.

Dyma’r ail waith iddyn nhw benderfynu peidio cynnal adolygiad.

Marwolaeth Ruth Williams

Dyma’r ail waith eleni i’r fath benderfyniad gael ei wneud mewn perthynas â marwolaeth yng Nghymru.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, orchymyn Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cyngor Torfaen i wneud tro pedol ar ôl iddyn nhw beidio â chynnal adolygiad o farwolaeth Ruth Williams.

Cafodd ei lladd gan ei gŵr yn eu cartref yng Nghwmbrân fis Mawrth y llynedd.