Mae Cabinet Llywodraeth Sbaen wedi cyhoeddi pardwn amodol i naw o ymgyrchwyr annibyniaeth Catalwnia.

Cafodd y naw eu carcharu am eu rhan yn yr ymgyrch tros annibyniaeth yn 2017, pan wrthododd Sbaen gydnabod canlyniad refferendwm roedden nhw’n ei alw’n “anghyfansoddiadol”.

Yn ôl Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, roedd angen cyflwyno pardwn er mwyn ceisio sicrhau undod.

Cafodd y cyn-ddirprwy arlywydd Oriol Junqueras ddedfryd o 13 o flynyddoedd o garchar am annog terfysg ac am gamddefnyddio arian cyhoeddus.

Treuliodd e dair blynedd a hanner dan glo.

Mae’r pardwn yn dileu gweddill ei ddedfryd yntau a’i gyd-wleidyddion, ond fyddan nhw ddim yn cael dychwelyd i swydd gyhoeddus.

Ac mae Llywodraeth Sbaen yn dweud y gellid dileu’r pardwn i’r holl arweinwyr pe baen nhw’n ymgyrchu eto tros annibyniaeth.

Pedro Sanchez

Sbaen am roi pardwn i ymgyrchwyr annibyniaeth Catalwnia

Cafodd y naw eu carcharu am eu rhan yn y refferendwm ‘anghyfansoddiadol’ yn 2017