Mae rhieni bachgen pymtheg oed sydd wedi bod ar y rhestr warchod rhag Covid-19 (shielding) ers dechrau’r pandemig yn dweud eu bod nhw am iddo gael ei frechu.
Yn ôl Gareth Payne o Ffynnon Taf ger Caerdydd, mae e a’i wraig yn awyddus i’w mab dderbyn y brechlyn “er mwyn gallu cario ymlaen â’i arddegau”.
Mae gan Josiah Payne Anhwylder Mitochondrial sy’n golygu fod ganddo fe broblemau gyda’r cyflenwad egni yn ei gelloedd.
Dydy’r cyflwr ddim yn effeithio arno o ddydd i ddydd, ond pe bai’n cael unrhyw salwch, byddai’n mynd yn eithriadol o wan, meddai ei dad wrth golwg360.
Rhwng dechrau’r cyfnod clo cyntaf a gwyliau’r Pasg eleni dim ond am dair wythnos mae Josiah wedi gallu mynychu’r ysgol wyneb yn wyneb, ac mae ei fywyd cymdeithasol a’i addysg wedi bod “ar stop”.
Er bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau’r Deyrnas Unedig (MHRA) wedi cymeradwyo brechlyn Pfizer ar gyfer plant rhwng 12 i 15 oed, mae’r Cydbwyllgor Imiwnedd a Brechu yn ystyried y cyngor ar frechu plant ar hyn o bryd.
Dywedodd Mark Drakeford yr wythnos ddiwethaf fod yna “faterion difrifol iawn” i’w hystyried ynghylch brechu plant, ac mae cwestiynau wedi codi ynghylch moesoldeb eu brechu ac er budd pwy y byddai hynny’n digwydd.
Blwyddyn o ynysu
“Y sefyllfa ydi, mae fy mab yn bymtheg ac mae ganddo Anhwylder Mitochondrial, a beth mae hynny’n golygu yw bod ganddo broblemau gyda’r cyflenwad egni yn ei gelloedd,” meddai Gareth Payne, sy’n ymgynghorydd niwroffisiolegol yn Ysbyty Gwynedd.
“Beth mae hynny wir yn ei olygu yw os ydi e’n cael salwch, boed e’n annwyd neu ffliw neu rywbeth mwy difrifol, yna mae e’n mynd yn eithriadol o wan.
“Mae e’n llethol iawn, dyw e ddim yn gallu eistedd i fyny pan mae hynny’n digwydd.
“Ond o ddydd i ddydd, mae e’n hollol normal, mae e’n iach, mae e’n gwneud ymarfer corff a chwaraeon a phob math o bethau.
“Oherwydd ei gyflwr a’r risg o beth fyddai’n digwydd iddo petai’n cael Covid mae e wedi bod ar y rhestr warchod.
“Canlyniad hynny oedd, dros gyfnod o ddeuddeg mis, ers dechrau’r cyfnod clo nes gwyliau’r Pasg eleni, fuodd e ond yn yr ysgol am dair wythnos.
“Chafodd o ond ei ganiatáu i fynd i adeilad yr ysgol ar ddechrau Medi nes gwnaeth y gyfradd godi i 30 achos i bob 100,000 person yr wythnos. Ar y pwynt hwnnw, roedd rhaid i ni ei dynnu allan.
“Felly fe wnaeth e dreulio rhan fwyaf o’r flwyddyn ddiwethaf mewn cyfnod clo yn hunanynysu, ac roedd rhaid i fy merch wneud yr un fath yn sgil y risg y byddai hi’n dod ag unrhyw beth adre’.
“Mae e wedi cael addysg o bell ar Teams, ac mae’r ysgol wedi bod yn dda iawn.
“Ond mewn gwirionedd, mae e wedi’i ynysu drwy’r amser honno.”
‘Methu allan’
Dywed Gareth Payne y byddai e a’i wraig Rebecca, sy’n feddyg teulu, yn hoffi gweld y rhaglen frechu’n cael ei hymestyn i gynnwys plant o dan 16 oed sydd ar y rhestr warchod.
“Hoffwn i’r brechlynnau gael eu hymestyn at blant dan 16 sydd ar y rhestr warchod, i ddechrau,” meddai.
“Mae’r MHRA wedi cymeradwyo’r brechlyn Pfizer nawr.
“Rydyn ni mewn sefyllfa lle maen nhw wedi penderfynu nad ydi e mewn perygl digonol i olygu cael y brechlyn, ond mae e mewn perygl digonol i olygu nad ydi e wir fod i fynd i’r ysgol, na mynd ar y bws ysgol.
“Dyw e methu cymdeithasu â’i ffrindiau, na mynd i’r sinema. Rydyn ni’n gorfod dreifio fe i ac o’r ysgol oherwydd nad ydi e’n cael mynd ar y bws, gan y byddai hynny’n torri ei swigen.
“Mae e wedi’i ynysu yn gymdeithasol yn fwy na phlant eraill yn yr ysgol, mae’n rhaid iddo fwyta ar ben ei hun.
“Mae e wedi methu allan ar lawer iawn eleni oherwydd nad ydi e’n gallu cymryd rhan yng ngweithgareddau arferol yr ysgol tu hwnt i unrhyw beth lle mae e’n gwisgo mwgwd, ac sy’n cael ei ganiatáu dan y rheolau.”
“Blwyddyn gyfyngedig”
“O’i safbwynt e, mae e wedi cael blwyddyn gyfyngedig iawn,” ychwanega Gareth Payne.
“A’r peth gwirion yw, mae e’n bymtheg a hanner, dwy fodfedd yn dalach na fi.
“Rydyn ni jyst isio iddo fe gael ei frechu fel bod e’n gallu cario ymlaen â’i fywyd mewn gwirionedd.”
Fe wnaeth Gareth Payne bwysleisio’r “rhwystredigaeth” maen nhw’n ei deimlo ynglŷn â’r sefyllfa.
“Mewn gwirionedd, mae ei addysg e wedi bod ar stop ac mae ei gymdeithasu ar stop oherwydd ei fod e mewn gormod o risg o ddal yr afiechyd ond dyw’r JCVI heb ei ystyried mewn digon o berygl i ganiatáu iddo gael y brechlyn eto,” meddai wedyn.
“Rydyn ni jyst isio iddo fe gael cario ymlaen â’i arddegau.”