Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Frost yn galw am “ailosod y berthynas weithio rhwng ein llywodraethau ar faterion sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd”.

Daw hyn ar ôl iddo gael mynychu cyfarfod masnach Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd, ond chafodd e ddim cyfrannu.

Roedd gweinidogion o’r llywodraethau datganoledig eraill hefyd yn y cyfarfod, ond dim ond fel arsylwyr.

Cafodd y cyfarfod ei gadeirio ar y cyd gan yr Arglwydd Frost, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Swyddfa’r Cabinet a Maroš Šefčovič, Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Yn ei lythyr at yr Arglwydd Frost, dywedodd Vaughan Gething nad yw’n fodlon â’r sefyllfa bresennol.

Mae’n galw arno i sicrhau bod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael cymryd rhan fel cyfranogwyr llawn yn y dyfodol.

“Anfoddhaol”

“Mae’n bwysig nad yw’r rôl, fel rhan o ddirprwyaeth y Deyrnas Unedig, yn gyfyngedig,” meddai Vaughan Gething yn y llythyr.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru allu cyfrannu ar faterion sy’n dod o fewn ein cymhwysedd datganoledig fel cyfranogwyr gweithredol yng nghyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y DU-UE.

“Mae ein cyfrifoldebau dros weithredu a’r effaith wirioneddol y mae’r TCA eisoes yn ei chael ar fusnesau a dinasyddion yng Nghymru yn ei gwneud yn hanfodol ein bod yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o gytuno ar safbwynt yn y Deyrnas Unedig a chael y cyfle i gynrychioli ein buddiannau uniongyrchol yn y cyfarfodydd.

“Felly, roedd yn anfoddhaol iawn mai dim arsylwyr yr oedd y Llywodraethau Datganoledig oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor Partneriaeth.

“Ni all hyn barhau wrth inni symud ymlaen.

“Rydym yn parchu eich safbwynt fel cyd-gadeirydd sy’n adlewyrchu statws Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n arwain y rhyngweithio â’r Undeb Ewropeaidd ar y materion hyn.

“Fodd bynnag, ni ddylai hyn atal Gweinidogion y Llywodraethau Datganoledig rhag cymryd rhan weithredol er mwyn cefnogi a gwthio safbwyntiau’r Deyrnas Unedig.”

‘Cyfraniad gwirioneddol’

“Rydym am weithio’n adeiladol ar sail pedair llywodraeth i gytuno ar safbwyntiau ar y cyd a’u datblygu’n uniongyrchol gyda’r Undeb Ewropeaidd,” meddai wedyn.

“Mae hwn yn gyfle i ddangos pwrpas ac eglurder i’r Undeb Ewropeaidd bod pob llywodraeth sydd â chyfrifoldebau gweithredu yn cefnogi’r safbwyntiau sy’n cael eu datblygu gan ddirprwyaeth y Deyrnas Unedig.

“Ni all Llywodraeth Cymru gefnogi sefyllfa lle mae gweinidogion yn cael gwahoddiad i gyfarfodydd ond nad oes ganddynt rôl weithredol.

“Bydd hefyd yn hanfodol bod y strwythurau a’r ymgysylltu sy’n sail i’r cyfarfodydd hyn yn cael eu sefydlu i weithredu mewn modd a fydd yn hwyluso cydweithio gwirioneddol a datblygu safbwynt cytûn yn y Deyrnas Unedig a gefnogir gan Weinidogion y Llywodraethau Datganoledig.

“Rhaid i hyn gynnwys cyfraniad gwirioneddol yn y grwpiau gwaith a phwyllgorau arbenigol sy’n ymdrin â materion mewn meysydd datganoledig.

“Ni ellir eithrio cyfranogiad gwirioneddol yn y meysydd hynny lle mae gennym gyfrifoldebau gweithredu.”

Galw am “ymgysylltu adeiladol” ar Brotocol Gogledd Iwerddon

Wrth fynd yn ei flaen i drafod Protocol Gogledd Iwerddon, dywed Vaughan Gething fod “gan symud nwyddau rhwng Cymru ac Ynys Iwerddon oblygiadau dwfn i borthladdoedd yng Nghymru ac mae’n rhaid i ni fod yn rhan o’r trafodaethau sy’n digwydd yn y Cydbwyllgor”.

“Mae’n rhyfeddol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i fynegi syndod bod Protocol Gogledd Iwerddon yn dargyfeirio masnach oddi wrth lwybrau uniongyrchol Prydain Fawr i Weriniaeth Iwerddon,” meddai.

“Ym mis Mawrth 2020, rhannodd Gweinidogion Cymru ymchwil annibynnol â Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar oblygiadau Protocol Gogledd Iwerddon ar Gymru.

“Roedd yr ymchwil hwn yn glir bod disgwyl dargyfeirio masnach.

“Roedd graddfa’r goblygiadau i Gymru yn rhagweladwy a chawson eu rhagweld.

“Mae bellach yn real iawn ac o ddiddordeb uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

“Rwy’n llwyr gydnabod yr heriau i weithredu Protocol Gogledd Iwerddon ond mae’n hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio’n adeiladol gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Nid yw gweithredu unochrog ond yn tanseilio’r gwaith sydd ei angen i feithrin perthynas â’r Undeb Ewropeaidd.

“Rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatrys gwahaniaethau drwy waith ar y cyd ac ymgysylltu adeiladol.

“Dyna’r dull yr ydym am ei ddilyn.”