Mae cynlluniau i droi ysgol gynradd yng ngogledd Powys yn ysgol Gymraeg wedi symud gam yn nes eto, yn ôl y Cyngor Sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig newid y ddarpariaeth iaith yn Ysgol Dyffryn Trannon yn Nhrefeglwys fel bod yr ysgol yn newid yn lleoliad addysg Gymraeg.

Byddai hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn dod yn gwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.

Ar hyn o bryd, mae hi’n ysgol dwy ffrwd sy’n cynnig addysg cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg i ddisgyblion pedair i unarddeg oed.

Cafodd ymgynghoriad saith wythnos ei gynnal ar y cynnig ym mis Chwefror a mis Ebrill eleni, a heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 22), cafodd sêl bendith ei roi i gyhoeddi hysbysiad statudol ffurfiol yn cynnig y newid.

‘Cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog’

“Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad am y cynnig hwn,” meddai’r Cynghorydd Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys.

“Trwy symud Ysgol Dyffryn Trannon ar hyd y continwwm iaith, bydd yn ein helpu i gyflawni’r nodau a’r amcanion yn ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Bydd hyn yn cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

‘Er budd disgyblion’

“Bydd y Corff Llywodraethu yn cefnogi’r cyngor ym mha bynnag benderfyniad a wnaiff, ac yn gweithio gyda hwy er budd disgyblion Ysgol Dyffryn Trannon, nawr ac yn y dyfodol,” meddai Sue Wilcox, cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Trannon.

Byddai’r newid yn cael ei gyflwyno fesul cam, o flwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022.

Fyddai hyn ddim yn effeithio ar y disgyblion sydd eisoes yn yr ysgol ac yn cael eu dysgu drwy’r Saesneg.

Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn ystyried adroddiad pellach a fydd yn crynhoi unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig yn yr hydref.

Fe fydd y cynnig yn helpu’r Cyngor i gyflawni un o nodau ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-30, sef gwella mynediad i ddarpariaeth Cymraeg ym mhob cyfnod allweddol.