Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru wedi cyhoeddi mesurau Llywodraeth Cymru er mwyn creu mwy o gapasiti a lleddfu’r pwysau posibl ar y system addysg.

Ers dechrau yn ei swydd yn gyfrifol am Addysg a’r Gymraeg, mae Jeremy Miles wedi bod yn siarad â phobol yn y system ysgolion er mwyn clywed pa heriau sy’n eu hwynebu wrth gefnogi dysgwyr a pha gymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Mae’n fwriad i’r mesurau, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mehefin 21), helpu i leihau baich gweinyddol ysgolion a galluogi dull mwy unigol o gefnogi pobol ifanc.

Mae’r mesurau yn cynnwys atal rhaglen arolygu graidd Estyn ar gyfer ysgolion ac unedau atgyfeirio disgyblion ar gyfer tymor yr hydref eleni, a threialu dull newydd o arolygu, gyda chytundeb ysgolion, yn y gwanwyn.

Fydd perfformiadau ysgolion ddim yn cael eu mesur yn 2021/22, a fydd ysgolion ddim yn cael eu categoreiddio yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Yn ogystal, bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno sy’n llacio gofynion adrodd ysgolion ar gyfer 2020/21.

‘Adnewyddu a diwygio’

“Fy mlaenoriaethau i ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yw adnewyddu a diwygio, gan roi cynnydd a lles y dysgwyr wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud,” meddai Jeremy Miles.

“Wrth i ni adfer ar ôl y pandemig, gan weithio tuag at gyflawni’r cwricwlwm newydd, rydw i eisiau adeiladu ar yr arloesi, yr hyblygrwydd a’r ffocws ar les sydd wedi ein helpu ni drwy’r cyfnod hwn o darfu.

“Y neges glir rydw i wedi’i derbyn gan y gweithlu addysg yw eu bod yn benderfynol o wneud popeth o fewn eu gallu i helpu dysgwyr i wneud cynnydd, ond mae pwysau sy’n effeithio ar eu gallu i wneud hyn. Rydw i wedi gwrando ac yn gweithredu i’w cefnogi.

“Mae’r camau a gyhoeddwyd heddiw’n adeiladu ar yr ystod o fesurau rydyn ni eisoes wedi’u rhoi ar waith eleni i leddfu pwysau a darparu hyblygrwydd. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan fwy na £150m o gyllid i gefnogi lles, dysgu ac addysgu eleni.

“Byddaf yn parhau i weithio gydag ysgolion, arweinwyr a dysgwyr ar y camau eraill y gallwn eu cymryd i greu gofod yn y system i gefnogi adnewyddu a diwygio.”