Bydd Rhodfa Coedwig Cwmcarn yn croesawu ymwelwyr yn ôl yn eu ceir heddiw (dydd Llun, Mehefin 21), a hynny am y tro cyntaf ers chwe blynedd.

Wrth i wyliau’r haf agosáu, bydd ymwelwyr yn gallu crwydro saith milltir Rhodfa’r Goedwig ar ei newydd wedd, wedi gwaith adfer a gwella gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Caerffili.

Mae’r safle wedi gweld datblygiadau sylweddol dros y deuddeg mis diwethaf ar gyfer creu atyniad sy’n hygyrch i bob cynulleidfa.

Yn ogystal, mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu buddsoddi i ddatblygu ‘Llawr y Cymoedd’ er mwyn gwella’r maes gwersylla, y llyn a’r ardal gyfagos.

Mae sawl llwybr wedi cael eu creu ar y rhodfa ar gyfer pobol o bob gallu, ynghyd ag ardaloedd eistedd newydd.

Fel rhan o’r gwelliannau, mae tair ardal chwarae newydd, ardal straeon, twnelau synhwyraidd a llwybr cerfluniau coetir wedi’u datblygu ar gyfer plant.

Bydd caban pren gyda golygfeydd panoramig dros y cwm yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dysgu a lles yn yr awyr agored hefyd.

‘Carreg filltir’

“Mae Coedwig Cwmcarn yn agos iawn at galonnau’r cymunedau o gwmpas Coedwig Cwmcarn,” meddai Geminie Drinkwater, Rheolwr Prosiectau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae gwireddu’r weledigaeth a syniadau pobol leol ar gyfer yr ailddatblygu wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn ac mae wedi bod yn fraint bersonol i mi weld y weledigaeth honno’n dod yn fyw yn y lle arbennig iawn hwn.

“Mae ailagor heddiw yn garreg filltir arbennig i’r hyn a fu’n bartneriaeth wirioneddol lwyddiannus rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r gymuned leol.

“Rwy’n falch iawn o weld y gatiau i Rodfa’r Goedwig ar agor unwaith eto heddiw ac rwy’n edrych ymlaen at weld ymwelwyr, hen a newydd, yn darganfod ac yn mwynhau popeth sydd ganddi i’w gynnig am flynyddoedd lawer i ddod.”

‘Diwrnod nodedig’

“Mae heddiw’n ddiwrnod nodedig i ni weld y lle hardd ac unigryw hwn yn cael ei agor unwaith eto i’r gymuned,” meddai’r Cynghorydd Philippa Marsden, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

“Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud yn rhagorol ac mae gan y safle cyfan gymaint i’w gynnig i breswylwyr ac ymwelwyr.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar brosiect sydd mor agos at galon y gymuned, mae ei weld yn dod yn ôl yn fyw yn wych.”

Mae ceir, beiciau modur, bysiau mini a bysiau yn gallu ymweld â’r rhodfa, gan ddilyn system unffordd.