Mae dirprwy brif weinidog yr Alban wedi amddiffyn y penderfyniad i gyflwyno gwaharddiad teithio ar bobol o ogledd-orllewin Lloegr.
Cafodd y gwaharddiad ei gyflwyno yn sgil y cynnydd mewn achosion o Covid-19 yn yr ardal honno, ond fe gafodd ei feirniadu gan Andy Burnham, Maer Manceinion.
Yn ôl John Swinney, fe wnaeth y llywodraeth weithredu yn ôl disgwyliadau’r cyhoedd.
“Rhaid i ni wneud penderfyniadau’n seiliedig ar y data a’r dystiolaeth sy’n cyflwyno’i hun, a gwneud penderfyniadau sydd wedi’u cynllunio i atal ymlediad y feirws,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.
“Yn ein barn ni, mae’r cynnydd mewn niferoedd a lefelau uchel y feirws yn ardaloedd Manceinion Fwyaf a Salford wedi cyfiawnhau’r penderfynu wnaethon ni ac rydym yn ei wneud er mwyn ceisio lleihau cylchrediad y feirws.”
Mae’n dweud y bydd y llywodraeth yn ystyried natur munud ola’r gwaharddiad, ond fod hynny wedi digwydd yn ardal Bolton ym mis Mai hefyd a’u bod nhw wedi dilyn yr un drefn eto.
Yr alwad am iawndal ‘ddim yn berthnasol’
Yn ôl John Swinney, dydy galwad Andy Burnham am iawndal i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwaharddiad “ddim yn berthnasol”.
“Rydyn ni’n amlwg yn wynebu nifer o heriau wrth dawelu’r coronafeirws,” meddai.
“Mae gennym ni gymorth busnes yn ei le yn yr Alban yr ydyn ni sicrhau ei fod ar gael i fusnesau i geisio’u cynnal nhw, bydd cefnogaeth yn ei lle yn Lloegr ar gyfer union yr un amgylchiadau.
“Rhaid i ni wneud penderfyniadau ar sail y data sy’n cyflwyno’i hun ac weithiau, mae’r data hwnnw’n anghyfforddus iawn i ni.
“Rhaid i ni weithredu’n gyflym er mwyn ceisio sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth posib i dawelu ymlediad y feirws, a dyna fyddai aelodau’r cyhoedd yn ei ddisgwyl gennym ni.”