Mae ffrae yn corddi ar ôl i Lywodraeth yr Alban wahardd teithio o’r wlad i ogledd-orllewin Lloegr, wrth i Andy Burnham, Maer Manceinion, ddweud na chafodd e wybod am y gwaharddiad ymlaen llaw.

Mae Burnham yn cyhuddo Llywodraeth yr SNP o “ragrith”.

Cyhoeddodd y prif weinidog Nicola Sturgeon ddydd Gwener (Mehefin 18) y byddai gwaharddiad ar deithio’n ddiangen i Fanceinion a Salford o yfory (dydd Llun, Mehefin 21).

Ond mae Burnham yn dweud na chafodd e na’i swyddfa wybod cyn y cyhoeddiad.

Yn ôl Sturgeon, mae gan y ddwy ardal gyfradd uchel o achosion o Covid-19, er bod y ffigurau’n debyg i rai ardaloedd yn yr Alban.

‘Siomedig iawn’

“Ro’n i’n siomedig iawn ddydd Gwener fod prif weinidog yr Alban jyst wedi cyhoeddi o nunlle, o’n safbwynt ni, y gwaharddiad ar deithio gan ddweud na allai pobol deithio o’r Alban i Fanceinion a Salford ac na allai pobol fynd y ffordd arall,” meddai Andy Burnham wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Dyna’n union mae’r SNP bob amser yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o’i wneud, sef sathru ar bobol.

“Mae’r SNP yn trin gogledd Lloegr â’r un dirmyg wrth gyflwyno hynny heb ymgynghori â ni.

“Dw i jyst yn credu ei fod yn safonau dwbl, yn rhagrith.

“Maen nhw wedi gwneud yr union beth i ni maen nhw bob amser yn cwyno bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud i’r Alban.”

Mae’n dweud ei fod yn disgwyl i Lywodraeth yr Alban dalu iawndal i bobol sydd yn cael eu heffeithio gan y gwaharddiad, ac mae’n dweud bod y gwaharddiad ar bobol sydd wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 yn “anghymesur”.