Mae protestwyr ar strydoedd Brasil wrth i nifer y bobol fu farw o ganlyniad i Covid-19 yn y wlad fynd y tu hwnt i 500,000.

Maen nhw’n rhoi’r bai am y sefyllfa ar yr Arlywydd Jair Bolsonaro, ac yn ei gyhuddo o geisio tanbrisio maint y pandemig.

Fe fu’r protestwyr yn Rio de Janeiro yn galw am ei ymddiswyddiad, ac roedd protestiadau tebyg mewn o leiaf 22 o 26 o daleithiau’r wlad, yn ogystal â Brasilia, yr ardal ffederal.

Yn Sao Paulo, fe fu’r protestwyr yn gollwng balwnau coch er cof am y rhai fu farw.

Cefnogwyr y pleidiau asgell chwith sydd wedi trefnu’r protestiadau, ac maen nhw wedi cael hwb o glywed bod poblogrwydd yr arlywydd wedi gostwng yn ôl polau yn y wlad, flwyddyn cyn yr etholiad arlywyddol nesaf.

Er gwaetha’r protestiadau, cefnogwyr Bolsonaro sydd fel arfer allan ar y strydoedd yn ei ganmol am lacio’r mesurau ac am helpu busnesau i adfer.

Ond mae’r mesurau hynny wedi cyfrannu at sefyllfa’r feirws yn y wlad, yn ôl ei feirniaid, sydd hefyd yn beirniadu’r ymdrechion i frechu pobol. Dim ond 12% o’r boblogaeth sydd wedi’u brechu’n llawn wrth i nifer yr achosion dyddiol gyrraedd 100,000 a nifer y marwolaethau’n cyrraedd 2,000 bob dydd.