Mae ymchwil newydd yn awgrymu na fydd ymwelwyr achlysurol â thafarnau’n dychwelyd ar ôl y pandemig Covid-19.

Mae’r ymchwil gan Brifysgol Portsmouth yn destun pryder i’r diwydiant sydd eisoes dan gryn bwysau o ganlyniad i’r cyfyngiadau.

Yn ôl Dr Sianne Gordon-Wilson o’r brifysgol, mae’r mwyafrif o bobol sydd wedi bod yn ymweld yn llai cyson â thafarn yn ystod y pandemig wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o gymdeithasu.

Serch hynny, mae ymwelwyr cyson yn fwy tebygol o ddychwelyd gan eu bod nhw’n teimlo’n “gartrefol” mewn tafarn, yn ôl yr ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi yn yr International Journal of Hospitality Management.

“Mae tafarnau’n rhan ganolog a phwysig o ddiwylliant y Deyrnas Unedig ac mae ganddyn nhw hanes hir,” meddai Dr Sianne Gordon-Wilson.

“Maen nhw hefyd yn rhan hanfodol o fywyd cymdeithasol a gwaith rhai pobol, ac mae hynny’n anodd i’w ailadrodd gartref.

“Mae naw ym mhob deg o oedolion ym Mhrydain yn mynd i’r dafarn, gyda nifer yn gweld tafarnau fel estyniad o’u cartrefi.

“Maen nhw eisiau ymweld ag amgylchfyd y dafarn gyda chwmni.”

Heriau

Serch hynny, mae sefyllfa tafarnau’n newid yn gyson, meddai.

“Y prif fater yw nad yw pob tafarn yn gallu agor oherwydd does ganddyn nhw ddim lle i sicrhau pellter cymdeithasol,” meddai.

“Yn ogystal, mae’r sector yn ei chael hi’n anodd recriwtio staff a dim ond gweini wrth fyrddau sy’n gallu cael ei ddarparu.

“Mae nifer o dafarnau bellach yn ei chael hi’n anodd ac mae nifer wedi cau am byth ar ôl 18 mis o galedi.

“At ei gilydd, mae hyn yn rhoi tafarnau mewn sefyllfa annymunol – maen nhw wedi colli incwm sylweddol, maen nhw’n dal i dalu rhent, a pho hiraf maen nhw’n aros ynghau, fwya’ o siawns o gael cwsmeriaid llai rheolaidd yn dod o hyd i opsiynau eraill.”

Ymchwil

Fel rhan o’r ymchwil, aeth Dr Sianne Gordon-Wilson ati i gyfweld â phobol sy’n mynd i’r dafarn.

Daeth hi i’r casgliad fod nifer oedd yn arfer mynd i’r dafarn ddwy neu dair gwaith yr wythnos bellach yn yfed yn eu cartrefi eu hunain bob nos oherwydd “diflastod, straen ac anobaith” yn sgil y cyfnodau clo.

Nododd eraill fod y gallu i gymdeithasu ar ôl gwaith yn “hanfodol i’w swyddi a’u llwyddiant o ran gyrfa”, a bod tafarnau’n llefydd pwysig i gyfarfod â chwsmeriaid busnes.

Mae’n dweud y bydd angen i dafarnau allu addasu i’r amgylchiadau newydd pan fyddan nhw’n cael agor yn llawn heb gyfyngiadau neu â llai o gyfyngiadau.