Mae afiechydon resbiradol newydd yn golygu y gallai pobol yng ngwledydd Prydain wynebu “gaeaf eithaf diflas”, yn ôl gwyddonwyr.

Yn ôl yr Athro Calum Semple, un o aelodau pwyllgor Sage sy’n cynghori Llywodraeth Prydain, bydd plant a phobol oedrannus yn enwedig mewn perygl o ganlyniad i effeithiau posib y fath afiechydon ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae arbeningwr arall yn rhybuddio am effaith hyn ar ysbytai a’u gallu i ymdopi.

Yn ôl yr Athro Semple, sydd wedi bod yn siarad â Times Radio, gallai afiechydon newydd “ein brathu ni’n eithaf caled”, ond mae’n darogan y bydd modd dychwelyd i’r drefn arferol y flwyddyn nesaf ac y bydd hynny’n golygu y bydd pobol yn gallu dod i arfer â bod yn agored i afiechydon newydd.

Dywed yr Athro Semple mai yn ystod y gaeaf nesaf y byddwn ni’n gweld “y bedwaredd ton”, ond mae’n disgwyl llai o effeithiau gwael ar y gymuned.

Ategu’r rhybudd

Cafodd ei neges ei hategu gan Dr Susan Hopkins o Iechyd Cyhoeddus Lloegr, sydd hefyd yn rhybuddio am gynnydd mewn achosion o Covid-19 erbyn diwedd y flwyddyn.

“Mae’n bosib y bydd rhaid i ni wneud rhagor o gyfnodau clo y gaeaf hwn,” meddai.

“Alla i ddim darogan y dyfodol, mae’n dibynnu wir ar a fydd yr ysbytai’n dechrau mynd dan gryn bwysau ar ryw adeg.

“Ond dw i’n credu y bydd gyda ni ffyrdd amgen o reoli hyn, drwy frechu, drwy wrth-feiral, drwy gyffuriau, drwy brofi nad oedd gennym ni y gaeaf diwethaf.

“Mae’r holl bethau hynny’n ein galluogi ni i gymryd dulliau gwahanol yn hytrach na chyfyngiadau ar fywoliaethau a fydd yn ein symud ni ymlaen i gam nesa’r addysg ar sut i fyw â hyn fel endemig sy’n digwydd fel rhan o feirysau resbiradol.”