Mae ymgyrchydd o Abertawe fu’n brwydro yn erbyn caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau yn y 1850au wedi cael ei hanrhydeddu â phlac glas.

Cafodd y plac ar adeilad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng nghanol y ddinas ei ddadorchuddio ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 19) – ar y diwrnod sy’n nodi diwedd caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau.

Teithiodd Jessie Donaldson o’r ddinas i Ohio yn y 1850au i reoli cartref diogel, gan wynebu’r risg o gael ei charcharu a’i dirwyo am gynnig lloches i gaethweision wrth iddyn nhw geisio dianc rhag eu perchnogion yn nhaleithiau’r de.

Ond yn Abertawe y cafodd hi ei geni yn 1799, yn ferch i’r cyfreithiwr Samuel Heineken a Jennet.

Bu’n byw mewn tŷ teras gyda’i brawd Samuel a’i chwaer Mary am 41 o flynyddoedd, ac mi agorodd hi ysgol yn Wind Street yn y 1820au.

Yn 41 oed yn 1840, priododd hi â Francis Donaldson, gan symud i ardal arall o’r ddinas am 16 o flynyddoedd.

Teithion nhw i Cincinnati yn 1854, gan fyw yno drwy gydol y Rhyfel Cartref rhwng 1861 ac 1865 a chynnig lloches i bobol oedd yn ceisio ffoi rhag caethwasiaeth.

Dychwelon nhw i Abertawe yn 1866 i fyw yng nghanol y ddinas cyn symud i Sgeti.

Bu farw Jessie Donaldson yn 1889.

Ymateb

Yn ôl y Cynghorydd Yvonne Jardine, Pencampwr Noddfa a Chynhwysiant Cyngor Abertawe, mae’n “briodol” fod Mehefin 19 wedi’i ddewis er mwyn dadorchuddio’r plac glas i nodi “rôl Jessie yn y frwydr hir yn erbyn caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau a ddaeth i fwcwl gyda Rhyfel Cartref America”.

Dywed y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod Abertawe’n “Ddinas Noddfa ac felly mae’n briodol ein bod ni’n cydnabod Jessie â’r plac glas hwn”.

Yn ôl yr Athro Ian Walsh o’r brifysgol, mae’r plac glas yn “deyrnged i ymchwil diflino yr Athro [Jen] Wilson wrth ddadorchuddio’r stori wirioneddol ysbrydoledig hon o ymroddiad anhunanol i gyfiawnder a rhyddid”.

Yr Athro Jen Wilson, yr hanesydd diwylliannol, oedd wedi enwebu Jessie Donaldson ar gyfer plac glas, a hithau wedi ymchwilio i’w bywyd ar hyd y blynyddoedd.

Mae ei chyfrol Freedom Music: Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950 yn adrodd hanes Jessie Donaldson wrth iddi symud o Abertawe i Ohio yn ei 50au a helpu caethweision i ffoi.