Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu’n ymchwilio i farwolaeth dyn yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd fore ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 19).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 1 o’r gloch y bore.

Yn ôl yr heddlu, does dim amgylchiadau amheus.

Dydy’r dyn ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae lle i gredu mai dyn lleol 30 oed yw e ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dywed Swyddfa Annibynnol Ymchwiliad yr Heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i’r achos – er gwaethaf sylwadau’r heddlu, sydd wedi trosglwyddo’r achos iddyn nhw.

Dywed y Swyddfa fod parafeddygon wedi’u hanfon yno ond fod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.

Maen nhw bellach yn adolygu gweithdrefnau’r heddlu ar ôl yr achos ac yn cynnal asesiad o’r amgylchiadau a’r wybodaeth sydd ar gael.