Mae merch o Gaerlŷr yn cwyno ar wefan gymdeithasol Twitter ar ôl i’w thad dderbyn carden Sul y Tadau oedd i fod ar gyfer tad teulu o Gymru.

Yn ôl Lauren Hollie, fe wnaeth cwmni Moonpig “ddanfon y garden Sul y Tadau anghywir”.

“A nawr mae ganddo fe lun o deulu Cymreig randym yn lle llun ohonof fi a fe… ardderchog.”

Mae llun dyn a’i dri o blant ar glawr y garden yn dweud ‘Happy Father’s Day Dad’.

Ar y tu fewn, mae’r neges yn dweud “I Dad, Sul y Tadau Hapus mwynha dy ddiwrnod, Llawer o gariad Oddi wrth Cerys, Rhys, Owain a Llion xxxx”.

Mewn neges yn ymateb, mae defnyddiwr arall, @worldmeetdani, yn dweud bod yr un sefyllfa wedi codi i’w mam y llynedd, a’i bod hi wedi derbyn carden ar gyfer pâr oedd newydd briodi yn hytrach na charden i’w llystad.

Ymateb Moonpig

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Moonpig: “Rydym wedi cael Sul y Tadau sy’n torri recordiau eleni, gan wneud ymhell dros filiwn o Dadau yn hapus ledled y wlad.

“Rydym yn ymfalchïo mewn plesio ein cwsmeriaid a mynd i drafferth fawr i ddarparu gwasanaeth eithriadol.

“Mae’r ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn gadarnhaol dros ben, ond mae’n ddrwg gennym glywed bod llond llaw o bobl wedi cael problem gyda’u gorchmynion.

“Os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny’n barod, hoffem eu hannog i estyn allan at ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid er mwyn i ni allu unioni pethau.”