Mae dyn wedi cael ei gyhuddo ar ôl anafu dau blismon oedd yn ymateb i ddigwyddiad yn Shotton.

Torrodd un plismon ei arddwrn ac fe boerodd y dyn ato, tra bod un arall wedi’i gnoi sawl gwaith.

Fe ddigwyddodd ar ôl iddyn nhw gael eu galw am oddeutu 1.30 fore ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 19), yn ôl yr heddlu.

Cafodd y ddau blismon eu cludo i’r ysbyty.

Cafodd Philip Jason Higgins, 39, ei gyhuddo o ddau achos o ymosod ar weithiwr brys ac un achos o ddifrod troseddol ar ôl torri ffenest car yr heddlu.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon Llandudno yfory (dydd Llun, Mehefin 21).

Cafodd llanc 17 oed ei arestio hefyd ar amheuaeth o atal yr heddlu rhag gwneud eu gwaith ac o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Cafodd dyn 42 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac o ddifrod troseddol, a chafodd dyn 29 oed ei arestio ar amheuaeth o niweidio, o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, o atal yr heddlu rhag gwneud eu gwaith, o wrthod cael ei arestio, o ymosod ar weithiwr brys ac o fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant.

Cafodd y tri eu rhyddhau dan ymchwiliad ac mae’r ymchwiliad hwnnw’n parhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.