Mae Robert Buckland, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan sy’n enedigol o Lanelli, wedi beirniadu’r Blaid Lafur am alw ar iddo gamu o’r neilltu pe na bai’n llwyddo i sicrhau bod mwy o achosion honedig o dreisio’n arwain at erlyniad neu euogfarn.

Mae’n dweud bod y feirniadaeth yn “beryglus”, ac mae’n cyhuddo David Lammy, llefarydd cyfiawnder Llafur, o “wleidyddiaeth isel” ar ôl iddo ei gyhuddo o “ddagrau crocodeil” yr wythnos hon pan ymddiheurodd e am y sefyllfa.

Mae gweinidogion wedi amlinellu eu bwriad i sicrhau “newid yn y drefn a’r diwylliant” ar ôl i nifer yr erlyniadau ar gyfer achosion o dreisio a throseddau rhyw llai difrifol yng Nghymru a Lloegr blymio i lefel isel newydd.

Mae Robert Buckland wedi cydnabod fod toriadau wedi arwain at y sefyllfa, a hynny yn dilyn cyhoeddi adolygiad swyddogol.

Ond mae David Lammy yn cyhuddo’r llywodraeth o “fethiant trychinebus” i warchod y rhai sy’n cael eu treisio.

“Mae degawd o doriadau’r Ceidwadwyr i’r system gyfiawnder wedi gadael treiswyr a throseddwyr treisgar eraill yn rhydd tra’n amddifadu dioddefwyr o gyfiawnder,” meddai.

“Mae euogfarnau ac erlyniadau ar gyfer treisio wedi mwy na haneru mewn tair blynedd.

“Os na all e wyrdroi’r ffigurau hyn o fewn blwyddyn ar ôl ei ymddiheuriad, dylai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wneud y peth anrhydeddus ac ymddiswyddo.”

Gwrthod dweud a fyddai’n fodlon ymddiswyddo

Ond mae Robert Buckland yn gwrthod dweud a fyddai’n fodlon ymddiswyddo pe bai’n methu â bwrw targedau.

Ac mae’n dweud bod yr alwad ar iddo ymddiswyddo’n “gyfansoddiadol anllythrennog”.

“Mae penderfyniadau sy’n cael eu gwneud i ymchwilio ac erlyn yn cael eu gwneud gan yr heddlu annibynnol a’u gwaith gweithredol a Gwasanaeth Erlyn y Goron, sy’n annibynnol,” meddai wrth raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky.

“Pe bai unrhyw awgrym fod erlyniadau’n cael eu dwyn oherwydd pwysau gwleidyddol arnaf fi, yn syml iawn byddai hynny’n gwneud euogfarnau’n anniogel – mae’n ddadl warthus.”

Dywedodd fod galw am ei ymddiswyddiad ar sail pwysau’n “beryglus” ac nad yw’n fodlon “cymryd rhan yn y lefel honno o ddadl”.

Ffigurau

Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2019-2020 yn dangos bod 1,439 o bobol wedi’u cael yn euog o dreisio neu droseddau llai difrifol yng Nghymru a Lloegr y llynedd – y lefelau isaf ar gof a chadw.

Roedd y ffigwr i lawr o 1,925 y flwyddyn gynt, er bod nifer yr adroddiadau o dreisio bron â dyblu ers 2015-16.

Mae 128,000 o bobol yn dioddef achosion o dreisio bob blwyddyn, yn ôl amcangyfrifon, ond dim ond 1.6% o achosion mae’r heddlu’n cael gwybod amdanyn nhw sy’n arwain at gyhuddiadau.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Robert Buckland ei fod e’n teimlo “cywilydd mawr”.