Bydd mân newidiadau yn cael eu gwneud i gyfyngiadau Covid-19 Cymru heddiw (dydd Llun, Mehefin 21), gan gynnwys newid i’r nifer o bobol sy’n cael mynychu lleoliadau cerddoriaeth.
Fel mewn caffis, tafarndai a bwytai, bydd grwpiau o chwe pherson a chwe aelwyd wahanol yn cael mynychu lleoliadau cerddoriaeth a chomedi gyda’i gilydd.
Bydd rhaid i fusnesau weithredu system unffordd, a chael system awyru addas, ond bydd nifer y bobol sy’n cael mynychu’r lleoliad yn seiliedig ar faint y lle yn hytrach na 30 person.
Gan ddilyn yr un egwyddor, bydd nifer y gwesteion sy’n cael mynychu derbyniadau priodas, partneriaethau sifil ac angladdau’n seiliedig ar faint y lleoliad.
Ddydd Iau (Mehefin 17), cyhoeddodd Mark Drakeford na fyddai rhagor o lacio, oni bai am y mân newidiadau hyn, am bedair wythnos yn sgil pryderon am ymlediad amrywiolyn Delta, ac er mwyn caniatáu mwy o amser i frechu’r boblogaeth.
Mae digwyddiadau peilot yn parhau i fynd yn eu blaenau trwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf.
O heddiw, gall disgyblion ysgolion cynradd sydd yn yr un grŵp cyswllt neu swigen aros dros nos mewn canolfan awyr agored breswyl addysgiadol.
‘Sefyllfa ddifrifol’
Wrth gyhoeddi’r newidiadau dywedodd Mark Drakeford fod cyfraddau trosglwyddo amrywiolyn Delta yn “cyflymu” ym mhob rhan o Gymru.
“Bellach, dyma’r amrywiolyn mwyaf cyffredin mewn achosion newydd yng Nghymru,” meddai.
“Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd.
“Mae gennym ni’r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraddau brechu uchaf.
“Gallai oedi am bedair wythnos cyn llacio’r cyfyngiadau helpu i leihau’r niferoedd uchaf o dderbyniadau dyddiol i’r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo’r Gwasanaeth Iechyd yn brysur iawn yn ceisio diwallu’n holl anghenion gofal iechyd – nid dim ond trin y coronafeirws.”
Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn dweud bod angen arweiniad a chefnogaeth ariannol ar y sector lletygarwch, a busnesau eraill sy’n parhau i gael eu heffeithio gan y cyfyngiadau.
Wrth ymateb, dywed Llywodraeth Cymru fod £2.5m o gefnogaeth ychwanegol wedi’i gyhoeddi ar gyfer busnesau’r wythnos ddiwethaf, a bod busnesau sydd â throsiant blynyddol o lai na £85,000 yn gallu gwneud cais am y Gronfa Cadernid Economaidd.
Bydd adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru’n digwydd ar Orffennaf 15.