Mae prisiau tai newydd ar y farchnad yng Nghymru wedi codi 14.6% ers mis Mawrth y llynedd, yn ôl Rightmove.

Dyma’r cynnydd mwyaf yn unman yng ngwledydd Prydain.

Mae’r galw ymhlith prynwyr i fyny 44% ers yr un adeg y llynedd, unwaith eto y cynnydd mwyaf yn unman yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl Rightmove, “Mae prisiau tai cyfartalog yng Nghymru ymhell o dan y cyfartaledd cenedlaethol, sy’n cynnig gwerth da yn ogystal ag amgylchfyd gwledig ac arfordirol.”

Mae prisiau tai ledled gwledydd Prydain wedi codi i’r lefelau uchaf erioed am y trydydd mis yn olynol – o 0.8% neu £2,509 ar gyfartaledd y mis yma, a hynny ym mhob un ardal o wledydd Prydain.

Daw hyn er gwaethaf ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol oedd yn dangos bod prisiau tai cyfartalog wedi gostwng £5,000 ym mis Ebrill ar ôl codi i’w lefelau uchaf fis Mawrth.

Yn wahanol i Rightmove, sy’n edrych ar brisiau tai sydd wedi cael eu prynu, darogan yn unig mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol faint o arian mae gwerthwyr yn gobeithio’i gael.

“Rydyn ni bellach yn derbyn cynigion gan nifer o brynwyr am bob eiddo,” meddai Matt Barry o gwmni Astleys sy’n gwerthu tai yn Abertawe.

“Mae hyn yn aml yn arwain at gais gennym ni am y cynigion gorau a’r cynigion terfynol a chartrefi’n gwerthu am ymhell y tu hwnt i’r pris gofyn gwreiddiol.”