Mae Dyfodol i’r Iaith yn cefnogi galwad yr economegydd Gerald Holtham am weithredu polisïau i ddenu pobol ifanc i aros a gweithio yng Nghymru.

Mewn erthygl yn rhifyn Mehfin o Barn, mae’r Athro Holtham yn tynnu sylw at y ffaith i Gymru ddioddef colled net o 35,000 o bobl 15-29 oed rhwng 2001 a 2019.

Cynyddodd y boblogaeth gyfan dros yr un cyfnod drwy fewnfudiad o 107,000.

“Mae’r gwaedlif parhaus o bobol ifanc o Gymru, yn enwedig yr ardaloedd gorllewinol, yn nychu’r Gymraeg ac yn bygwth tanseilio’r gobaith am ei hadfywhau,” meddai llefarydd ar ran y mudiad.

“Mae’r anghydbwysedd yna’n sicr o fod yn fwy yn yr ardaloedd gorllewinol.

“Rhaid gweithredu’n gadarn ac ar fyrder i atal y gwaedlif.

“Dyna pam yr ydyn-ni’n cefnogi galwad yr Athro Holtham am weithredu pecyn o fesurau i wneud Cymru yn wlad ddeniadol i’r ifainc i fyw a gwneud bywioliaeth.”

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:

  • addysg uwch a phellach am ddim i fyfyrwyr sy’n aros a gweithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl graddio
  • dileu dyled bresennol myfyrwyr sy’n cychwyn busnes yng Nghymru a darparu gwasanaeth mentora ar eu cyfer”.

Cartrefi ac ail gartrefi

Mae’r Athro Holtham hefyd yn galw am gymorth i bobol ifanc gael cartrefi ac am gyfyngu ar dwf ail gartrefi er mwyn gostwng pris tai mewn ardaloedd megis Gwynedd.

Ynghylch ei awgrym y dylid hefyd ddenu pobol ifanc o’r tu allan i Gymru er mwyn datblygu busnesau, mae Dyfodol yn cydnabod yr achos economaidd dros hynny.

Ond maen nhw’n mynnu y dylai ymrwymiad i ddysgu Cymraeg fod ynghlwm wrth gymorth o’r fath, yn enwedig yn yr ardaloedd gorllewinol.

Mae Dyfodol hefyd am ail-ddatgan ei chefnogaeth i:

  • sefydlu Arfor, asiantaeth gyhoeddus arbennig i’r gorllewin a fyddai’n cydblethu datblygu economi cynaliadwy a chynllunio twf y Gymraeg
  • gweithredu argymhellion adroddiad Simon Brooks ar dai gwyliau.