Mae cannoedd o weithwyr y DVLA yn Abertawe am streicio o’r newydd wrth i’r ffrae tros amodau gwaith o ganlyniad i Covid-19 barhau.
Bydd aelodau undeb y PCS yn cadw draw o’r gwaith o yfory (dydd Mawrth, Mehefin 22) tan ddydd Iau (Mehefin 24).
Mae’r undeb yn rhybuddio y gallai’r streiciau barhau am rai misoedd eto oni bai bod modd datrys y sefyllfa, ac maen nhw’n galw am ostwng nifer y gweithwyr yn y swyddfa.
Ond mae’r DVLA yn mynnu eu bod nhw’n dilyn y canllawiau priodol er mwyn sicrhau bod eu gweithwyr yn ddiogel.
Serch hynny, mae Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, yn dweud nad oes gan y DVLA na’r Adran Drafnidiaeth ddiddordeb mewn dod â’r anghydfod i ben ac mae’n cyhuddo penaethiaid o gyflogi contractwyr i gwblhau gwaith y rhai sy’n streicio.
Dywed y gellid “defnyddio’r gost o ddefnyddio contractiwr i gwblhau gwaith sy’n cael ei wneud gan staff y DVLA i ddatrys yr anghydfod ochr yn ochr ag ailgyflwyno’r cytundeb gwreiddiol”.
Yn hytrach, meddai, mae arian cyhoeddus yn cael ei “wastraffu ar geisio tanseilio ein gweithredu diwydiannol dilys, a fydd ond yn cael yr effaith i’r gwrthwyneb”.
Mae’n dweud bod penaethiaid y DVLA “wedi tanbrisio’n ddifrifol benderfyniad a dyfalbarhad ein haelodau sydd am weld setliad cyfiawn i’r anghydfod hwn”.
Ymateb
Mewn datganiad, mae’r DVLA wedi cadarnhau eu bod nhw’n defnyddio contractwyr i gwblhau gwaith y rhai sy’n streicio.
Yn ôl y DVLA, bydd hyn yn eu galluogi i barhau i bostio trwyddedau gyrru, dogfennau cerbydau a llythyron brechlynnau sy’n cael eu rheoli ar ran ymddiriedolaethau iechyd.
“Wrth i’r PCS ddewis parhau i weithredu’n ddiwydiannol a thargedu gwasanaethau a fydd yn cael yr effaith negyddol fwyaf ar y cyhoedd, rhaid i ni, lle gallwn ni, barhau i ddod o hyd i ffyrdd o gyflwyno ein gwasanaethau i’n cwsmeriaid,” meddai llefarydd.
“Yn syml, allwn ni ddim rhoi’r gorau i argraffu a phostio dogfennau hanfodol ar hyn o bryd.
“Mae miliynau o bobol ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhai o’r bobol fwyaf bregus yn y gymdeithas, yn dibynnu ar wasanaethau hanfodol y DVLA ac fe fydd gofynion y PCS yn achosi anghyfleustra sylweddol a diangen i deuluoedd a busnesau, a’r cyfan ar adeg pan fo’u hangen fwyaf.”
Beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am eu hymyrraeth yn nadl y DVLA
Staff y DVLA yn cynnal streic o’r newydd yn Abertawe
Gweithwyr DVLA yn streicio oherwydd ofnau diogelwch Covid