Mae iechyd meddyliol a chorfforol traean o bobol sy’n gweithio gartref yng Nghymru wedi dirywio oherwydd y ffyrdd newydd o weithio yn sgil y pandemig.
Hefyd mae traean o weithwyr yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw ganllawiau iechyd a diogelwch ynghylch gweithio gartref.
Dyma rai o ganfyddiadau’r arolwg mwyaf o’i fath yng Nghymru i effeithiau cwblhau swyddi ar yr aelwyd.
Holodd undeb Unsain Cymru 950 o weithwyr sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws llywodraeth leol ym meysydd iechyd, addysg uwch, addysg bellach, yr heddlu a chyfiawnder, dŵr, yr amgylchedd, sectorau cymunedol ac ynni.
Wrth gydnabod bod llawer wedi elwa o weithio gartref, dywed yr undeb llafur nad oes digon o gyflogwyr wedi ystyried yn llawn yr holl oblygiadau i’w staff o weithio gartref ac nad ydynt yn darparu canllawiau iechyd a diogelwch.
Mae’r arolwg yn dangos bod traean o’r rhai sydd adref yn gweithio oriau hirach ac yn profi dirywiad yn eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Bu’r gweithwyr hyn yn honni eu bod yn teimlo’n fwy blinedig, bod eu patrymau cysgu yn llai cyson a’u bod yn profi straen ar eu llygaid.
Mae’r undeb llafur am i gyflogwyr weithredu ar unwaith i sicrhau bod gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus sydd adref yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.
Daeth yr arolwg i’r casgliadau isod:
- Ni ddarparwyd unrhyw ganllawiau iechyd a diogelwch i 34% ynghylch gweithio gartref.
- Dywed 62% na wnaeth eu cyflogwr gynnal asesiad risg ynghylch gweithio gartref.
- Mae 50% bellach yn gwneud mwy o waith.
- Mae 34% yn gweithio mwy o oriau.
- Mae 35% yn dweud bod eu hiechyd corfforol wedi dirywio.
- Mae 34% yn dweud bod eu hiechyd meddyliol wedi dirywio.
- Mae 27% yn dweud bod eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi dirywio.
“Nid dyma’r math o gymdeithas rydw i eisiau byw ynddi”
“Mae pobol yn gweithio oriau caletach a hirach yn eu cartrefi ac mae hynny yn cael effaith,” meddai Lianne Dallimore, Cadeirydd Pwyllgor Llywodraeth Leol Unsain Cymru.
“Nid yw traean o weithwyr wedi cael unrhyw ganllawiau iechyd a diogelwch ac mae cysylltiad uniongyrchol â phroblemau iechyd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn gwaethygu.
“Nid dyma’r math o gymdeithas rydw i eisiau byw ynddi. Yn dilyn trychineb Covid-19, mae gennym gyfle i greu byd tecach a mwy caredig.
“Mae hynny’n golygu bod angen i gyflogwyr fod yn fwy parod i gefnogi staff yn y ffyrdd newydd o weithio a gwrando ar eu barn a chynnwys eu hundebau llafur.”