Mae o leiaf un person wedi marw a nifer o rai eraill wedi eu tynnu o’r rwbel ar ôl i fflatiau ddymchwel yn Miami, Fflorida neithiwr (nos Iau, 24 Mehefin).
Roedd rhan o’r adeilad 12 llawr yng nghymuned Surfside yn Miami wedi dymchwel tua 1.30yb.
Roedd tua 100 o bobl yn dal ar goll rai oriau wedi hynny, meddai’r awdurdodau, ac mae ofnau y gallai nifer y meirw gynyddu’n sylweddol.
Nid yw swyddogion yn gwybod faint o bobl oedd yn yr adeilad pan oedd wedi dymchwel.
Oriau wedi’r digwyddiad roedd timau achub yn ceisio cyrraedd plentyn oedd yn gaeth yn yr adeilad. Credir fod ei rieni wedi cael eu lladd ar ôl i’r adeilad ddymchwel.
Mae timau o 10 i 12 wedi bod yn mynd i mewn i’r adeilad ar y tro, gyda chŵn ac offer arbenigol er mwyn chwilio am ragor o bobl.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd i’r adeilad ddymchwel ond mae’n ymddangos bod gwaith yn cael ei wneud ar y to.
Cafodd yr adeilad glan môr ei adeiladu yn 1981 ac mae cymysgedd o breswylwyr tymhorol a pharhaol yn byw yno.