Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r cerddor, cynhyrchydd, a chyfarwyddwr, Wyn Lewis Jones, o’r o’r grŵp Ail Symudiad, sydd wedi marw.

Roedd yn chwarae gitâr fas gyda Ail Symudiad, y grŵp a sefydlodd gyda’i frawd Richard yn 1978 ac ef oedd llais cefndir y band hefyd.

Y Trwynau Coch, Buzzcocks, The Clash a’r Sex Pistols oedd prif ddylanwadau’r band, ond llwyddon nhw i greu sŵn unigryw eu hunain, gyda chaneuon megis Garej Paradwys, Twristiaid yn y Dre a Geiriau ymysg y rhai mwyaf poblogaidd.

Fe wnaeth y band ryddhau cryn dipyn o recordiau, yn ogystal â sefydlu’r cwmni recordiau Fflach.

Enillodd y band y wobr prif grŵp roc yng Ngwobrau Sgrech yng Nghorwen yn 1982.

Ac yn 2010 Ail Symudiad oedd enillwyr categori Cyfraniad Oes Gwobrau RAP BBC Radio Cymru.

Sefydlwyd is-label Fflach:tradd yn 1997 gan roi sylw ar gynhyrchu cerddoriaeth corau, artistiaid gwerin a bandiau pres.

“Rhyfeddol o ddawnus”

Un dyn sy’n dweud y bydd yna “golled anferthol” ar ôl Wyn Lewis Jones, ydi’r DJ Radio Cymru Richard Rees.

Roedd  yn ffrind da i aelodau’r band Ail Symudiad, a oedd yn cynnwys Wyn a’i frawd Richard, a byddai’n arfer eu cyfweld a chwarae eu caneuon yn rheolaidd ar ei raglen Sosban ar y radio.

Mae’n dweud y byddai “tirlun cerddorol Cymru yn dra gwahanol oni bai am gyfraniad Wyn”, a fu yn cynhyrchu cerddoriaeth bandiau lu yn Stiwdio Fflach yn Aberteifi, yn ogystal â chwarae’r gitâr fas i Ail Symudiad.

“Bydda i’n ei gofio fe mewn sawl ffordd,” meddai Richard Rees wrth golwg360.

“Y peth cyntaf dw i’n meddwl sy’n rhaid ei ddweud pan ti’n meddwl am Ail Symudiad fel dau frawd, mae’n anodd iawn meddwl am un heb y llall.

“Richard, wrth gwrs, yw’r un blaenllaw… Richard oedd wastad yn gwneud cyfweliadau a siarad am y band.

“Roedd Wyn yn dueddol o fod yn y cefndir, yn dawel, ond roedd gan Wyn safbwynt pendant iawn am lot o bethau.

“Roedd o’n foi oedd yn meddwl lot cyn siarad.

“Felly dw i’n meddwl fod lot o bobol, ddim wedi anwybyddu Wyn, ond wedi cymryd Wyn yn ganiataol oherwydd ei bersonoliaeth ddistaw.

“Ond roedd o’n foi rhyfeddol o ddawnus, fel cerddor, fel cynhyrchydd, fel peiriannydd.

“Gyda Stiwdio Fflach, yn amlwg roedd y ddau frawd yn chwarae rhan fawr yn ei rhedeg hi, ond Wyn oedd yr un oedd yno bob dydd, Wyn oedd cyn cynnig gwahanol bethau i wahanol fandiau ar sut i wneud pethau.

“Fe oedd yn gwthio pobol ychydig ymhellach, gwthio nhw i wneud pethau gwahanol… cadw fyny gyda’r technolegau diweddaraf ac yn y blaen.

“Felly, roedd e’n foi annwyl iawn, boi addfwyn, boi oedd â syniadau pendant a boi rhyfeddol o ddawnus…

“Bydd yno golled anferthol ar ei ôl e, yn sicr.

“Ti’n meddwl am y bandiau ac artistiaid gafodd gyfleon ar label Fflach… Gorky’s, Yws Gwynedd ac yn y blaen.

“Cafodd llwyth o bobol eu cyfle cynta’ gyda Fflach ac wedyn wedi sefydlu eu hunain ar ôl cael y cyfle yna ac wedi mynd ymlaen i ffurfio labeli eu hunain.

“Achos ar un adeg, dim ond [cwmnïau recordiau] Fflach a Sain oedd yn bodoli yng Nghymru, ac roedd lot mwy o gyfle gyda thi i gael i mewn trwy’r drws gyda Fflach na Sain.

“Byddai tirlun cerddorol Cymru yn dra gwahanol oni bai am gyfraniad Wyn.

“Felly na, bydd yno golled fawr iawn ar ei ôl… nid yn unig fel boi ffeind ofnadwy ond y gallu a’r dylanwad yna hefyd.”

“Apêl eang”

Wrth hel atgofion am ddyddiau rhaglen Sosban, lle byddai Ail Symudiad yn aml yn cyfrannu, dywedodd Richard Rees:

“Roedd Sosban wedi bod yn rhedeg am ryw dair blynedd cyn i Ail Symudiad ymddangos tua 1980, rhywbeth felly, ac roedden nhw’n ystyried eu hunain yn dipyn o punks ar y pryd.

“O edrych yn ôl, mae’n anodd dychmygu hynna heddiw.

“Roedd caneuon fel ‘Wisgi a Soda’, ‘Twristiaid yn Dre’ ac yn y blaen yn wahanol iawn i unrhyw beth arall yn y cyfnod.

“A phan oeddwn i’n cyfweld â nhw, roedden nhw wastad yn y stiwdio yn Aberteifi, ac roedd eu hiwmor nhw’n dod drwodd oherwydd pob tro roeddwn i’n eu cyfweld roedd yno synau od yn y cefndir.

“Cŵn yn cyfarth, adar yn canu, bwjis ac ati oherwydd roedden nhw’n dod i mewn gyda’r holl sound effects yma gyda nhw ac yn ystod y cyfweliad roeddet ti’n clywed yr holl sound effects yn mynd off.

“Dw i’n meddwl fod apêl eang iawn i ganeuon Ail Symudiad, ac maen nhw jyst yn ganeuon da ofnadwy.

“Dw i’n meddwl fod y cyfuniad o beth oedd Richard yn gallu ysgrifennu a’r hyn oedd Wyn yn dod iddyn nhw o ran ei sgiliau ef fel cynhyrchydd a pheiriannydd ac yn y blaen yn unigryw iawn iawn.”

“Brwydr hir a dewr”

Dywedodd datganiad ar gyfrif Twitter swyddogol y band fod ‘Wyn’ wedi “colli ei frwydr hir a dewr gyda chancr y pancreas”.

Disgrifiodd label Libertino ef fel “maverick”, gan diolch iddo “am y degawde o gerddoriaeth ac ysbrydoliaeth”.

“Arwr arall wedi’n gadael ni”

Mae “arwr arall wedi’n gadael ni”, medd Dylan Ebenezer, gan gyfeirio at farwolaeth Dave R Edwards o’r band Datblygu yn gynharach yr wythnos hon.

Ac mae ei farwolaeth yn “ergyd eto i’r byd pop Cymraeg ac i dref Aberteifi”, medd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones.