Mae theatr yn yr Wyddgrug yn “hyderus” fod gweinidogion Llywodraeth Cymru’n “deall anghenion y sector” wrth i’r cyfyngiadau ar leoliadau adloniant gael eu llacio.

Daw hyn y dilyn y newyddion bod Andrew Lloyd Webber yn un o griw sy’n cyflwyno her gyfreithiol yn Lloegr i orfodi Llywodraeth Prydain i gyhoeddi canlyniadau digwyddiadau prawf yno.

Yn ôl gweithwyr y sector, mae peidio â chyhoeddi’r canfyddiadau’n golygu ei bod hi’n “amhosib cynllunio ar gyfer unrhyw fusnes adloniant byw”.

Fel rhan o’r digwyddiadau prawf yng Nghymru, fe wnaeth Theatr Clwyd gynnal perfformiadau tu allan y llynedd, ac roedd y canlyniadau’n profi eu bod nhw’n “llwyddiant mawr”.

Fe wnaeth y digwyddiadau prawf yn Theatr Clwyd arwain at ailddechrau perfformiadau tu allan, a llunio’r llwybr at allu ailddechrau perfformiadau tu mewn, meddai’r theatr.

Mae’r sector hefyd yn awyddus i gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’r adferiad ôl-Covid, meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.

‘Llwyddiant mawr’

“Cafodd y digwyddiadau prawf yn Theatr Clwyd eu cynnal mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ddiwedd haf 2020,” meddai llefarydd ar ran Theatr Clwyd wrth golwg360.

“Roedden nhw’n llwyddiant mawr, ac fe wnaethon ni greu adroddiad i Lywodraeth Cymru a gafodd ei rannu gyda chydweithwyr ar draws y sector wedyn ac i’r sectorau gwyliau, chwaraeon ac adloniant.

“Mae’r digwyddiadau prawf hyn wedi arwain at bob theatr, hyrwyddwr perfformiadau byw a chynhyrchydd yn gallu ailddechrau gwaith yn yr awyr agored yr haf hwn, ac wedi llunio’r llwybr ar gyfer perfformiadau dan do gyda mesurau ymbellhau.

“Rydyn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru tuag at leihau mesurau ymbellhau dros yr wythnosau a misoedd nesaf, ac rydyn ni’n hyderus fod swyddogion a gweinidogion yn deall anghenion y sector, a pha mor saff yw’r awyrgylch rydyn ni’n gallu ei chynnig i’r sector.”

Fe wnaeth 1,855 o bobol fynychu’r digwyddiadau prawf yn Theatr Clwyd, ac ni fu’r un achos o Covid-19 yn gysylltiedig â’r digwyddiadau.

Ar ôl y digwyddiad, fe wnaeth Theatr Clwyd gysylltu ag o leiaf 10% o’r rhai fynychodd y digwyddiadau gan gynnig argymhellion, canfyddiadau a sylwadau i Lywodraeth Cymru wedyn.

‘Cyfnod heriol’

“Ers mis Mawrth y flwyddyn ddiwethaf dydyn ni ddim wedi cyflwyno theatr wyneb yn wyneb, mae’r cyfan o’r digwyddiadau theatr rydyn ni wedi’u creu wedi bod yn rhai digidol,” meddai Arwel Gruffydd wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi gallu ymarfer perfformiadau a datblygu gwaith newydd wyneb yn wyneb, gan ddilyn rheolau Covid Llywodraeth Cymru ac rydyn ni wedi creu dipyn o ddigwyddiadau ar blatfformau digidol.

“Felly rydyn ni wedi cadw’n brysur fel cwmni, ac wedi gallu llwyddo i roi cyflogaeth i weithwyr theatr llawrydd sy’n allweddol yn y cyfnod heriol yma i’r sector.

“Cyfnod sydd wedi bod yn arbennig o heriol i weithwyr theatr llawrydd, yn ogystal ag i ganolfannau sydd wedi colli pob incwm masnachol ac wedi gorfod dygymod â chymorth ariannol ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Llywodraeth Cymru ac ati.

“Rydyn ni wedi cynnal dipyn o weithgaredd, ac rydyn ni wedi cynnal dipyn o weithgaredd cyfranogi hefyd.

“Rydyn ni wedi gallu gweithio efo gwahanol aelodau yn y gymuned, o ddysgwyr i blant oed cynradd, drwy wahanol weithgareddau sy’n rhoi cyfle i bobol ymgysylltu â’r celfyddydau.

“Wrth gwrs, mae y rheiny bron yn ddieithriad wedi bod yn ddigwyddiadau digidol ar blatfformau fel Zoom ac ati.”

Cynyrchiadau

“Rydyn ni newydd orffen cynhyrchiad ar y cyd â Fran Wen a Pontio y gwnaethon ni ei gynnal yn Theatr Bryn Terfel yn Pontio, sef Faust + Greta, y gobaith oedd ein bod ni’n gallu gwahodd cynulleidfa mewn i’r adeilad i wylio’r profiad, ond wrth ein bod ni methu gwneud hynny fe wnaethon ni ei symud o ar-lein fel bod pobol yn gallu mwynhau theatr byw, ond theatr byw ar blatfform digidol,” meddai wedyn.

Bydd fersiwn wedi’i recordio o’r cynhyrchiad yn cael ei ryddhau ar-lein hefyd, meddai, ac fe fydd yn gwbl hygyrch i bobol â nam clyw, gydag opsiynau ar gyfer is-deitlau Cymraeg, Saesneg ac opsiwn sy’n cynnwys dehongliad iaith arwyddion Prydain.

“Rydyn ni’n cynllunio ar gyfer cynhyrchiad theatr awyr agored, yn bennaf, ym mis Awst sef cynhyrchiad o ddrama newydd gan Wyn Mason, Gwlad yr Asyn,” ychwanegodd.

Bydd y cynhyrchiad, ar y cyd â chwmni newydd Os Nad Nawr gyda chefnogaeth gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Chanolfan Mileniwm Cymru, yn teithio o amgylch canolfannau Cymru.

Bydd yna fwy o fanylion am raglen y Theatr Genedlaethol ar gyfer y flwyddyn hon yn cael eu cyhoeddi’n fuan, ond fel “tamaid i aros pryd” byddan nhw’n teithio gyda’r theatr awyr agored ym mis Awst, bydd taith theatr yn yr Hydref o ddrama newydd Rhiannon Boyle, Anfamol, a bydd cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo, Llygoden yr Eira, yn ymweld â chanolfannau ledled Cymru yn y gaeaf.

“Chwarae rhan i gynorthwyo”

“Dw i’n meddwl fod Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a’r sector theatr yng Nghymru i gyd wedi cydweithio’n dda yn ystod y cyfnod anodd yma i geisio gwneud y gorau posib o dan amgylchiadau heriol ac eithriadol iawn,” meddai Arwel Gruffydd wedyn.

“Mae’r cymorth sydd wedi dod, yn arbennig efallai i weithwyr llawrydd… mae’n ymddangos i fi ei fod wedi bod yn decach ac yn fwy hael na’r sefyllfa a welwyd yn Lloegr. Ac rydyn ni’n werthfawrogol o’r gefnogaeth ychwanegol mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i’r sector.

“Wrth gwrs, mae’r byd theatr yn gyffredinol yn awyddus i chwarae ein rhan i gynorthwyo’r Llywodraeth yn yr ymgyrch i adfer yn gymdeithasol yn sgil Covid.

“Rydyn ni’n gweld fod plant a phobol ifanc a myfyrwyr wedi disgyn ar ei hôl hi oherwydd y rhwystrau sydd wedi bod ym maes addysg, rydyn ni’n ymwybodol hefyd o’r her sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd wrth symud ymlaen, a’r heriau cymdeithasol i’r Stryd Fawr ac ati.

“Rydyn ni fel cwmni, a dw i’n siarad ar ran y sector dw i’n siŵr, wrth ddweud ein bod ni’n awyddus iawn i chwarae’n rhan yn yr adferiad cymdeithasol ôl-Covid.

“Mae yna lot o waith i’w wneud, ac mae gan y celfyddydau rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith hwnnw.”

‘Tagu ein diwydiant’

Y drefn o ran rhaglen digwyddiadau prawf Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw fod y llywodraeth yn ffurfio adroddiadau ar y canfyddiadau, ac mae cynrychiolwyr o’r sector yn awyddus i weld y canfyddiadau’n cael eu rhyddhau ar frys.

Roedd Andrew Lloyd Webber wedi dweud y byddai’n agor ei theatrau ar Fehefin 21, waeth beth yw’r rheolau, a’i fod yn barod i gael ei arestio.

Fodd bynnag, newidiodd ei feddwl yn sgil ofnau y byddai’r cast, y criw, a’r gynulleidfa yn cael dirwyon.

Roedd ei gynhyrchiad newydd, Cinderella, i fod yn rhan o raglen o ddigwyddiadau prawf, ond tynnodd yn ôl gan fynnu na fyddai’n cymryd rhan oni bai bod cynyrchiadau eraill yn rhan o’r rhaglen, a bod y theatr a cherddoriaeth fyw yn cael eu trin yr un fath â chwaraeon.

“Yn syml, mae’n rhaid i ni weld y data sy’n cael ei ddefnyddio i dagu ein diwydiant mewn ffordd mor annheg,” meddai Andrew Lloyd Webber.

“Mae gweithredoedd y llywodraeth yn gwthio theatrau a chwmnïau cerddoriaeth dros y dibyn wrth i’r haf fynd yn ei flaen tra bod digwyddiadau chwaraeon â phroffil uchel yn mynd yn eu blaenau.

“Mae’r sefyllfa tu hwnt i un frys.”

Dywedodd Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth Dŷ’r Cyffredin eu bod nhw “eisiau cael y wybodaeth a’r data allan yn fuan iawn”.

“Byddwn ni’n cyhoeddi’r wybodaeth yn fuan, yn ogystal ag arweiniad i helpu digwyddiadau i ailagor,” meddai.