Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am gantorion i gymryd rhan mewn prosiect arbennig a fydd yn rhan o ŵyl Eisteddfod AmGen eleni.

Bydd y prosiect yn cael ei ddarlledu am y tro cyntaf ar nos Wener, Awst 6, ac mae’n wahanol i gorau arferol yr Eisteddfod gan fod y trefnwyr am glywed gan bobol o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Mae’n gyfle i bobol fod yn rhan o gôr rhyngwladol, sy’n bartneriaeth gyda Chanolfan Gelfyddydol Genedlaethol Canada, ac yn gyfle i berfformio cân newydd sbon.

Mae’r gân ‘Os’ wedi cael ei chyfansoddi gan Lleuwen Steffan, gyda’r trefniant corawl a’r cynhyrchu yng ngofal Erin Costelo, sy’n dod o Nova Scotia.

Cynhyrchydd yw Erin Costelo, a hi oedd y ferch gyntaf i ennill Gwobr y Flwyddyn Music Nova Scotia yn 2017, ac mi enillodd y wobr eto yn 2019.

Mae hi’n arbenigo mewn cerddoriaeth electronig, celf perfformio ac amlgyfrwng, ac mae hi wedi creu trefniannau ar gyfer amryw o gomisiynau ac artistiaid yn y gorffennol

Gan ddathlu’r diwylliant Cymraeg a’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd, mae’r gwahoddiad i gantorion o bob llais ymuno â’r côr.

Er mwyn cymryd rhan yn y prosiect, y cyfan sydd ei angen yw i bobol recordio’u hunain yn canu’r gân a thynnu hunlun ar gyfer fideo, a bydd y trefnwyr yn gwneud y gweddill er mwyn ffurfio côr rhithwir.

“Egni a gobaith”

“Enw’r gân yw ‘Os’ a hoffwn estyn croeso i bawb i ganu ar hon,” meddai Lleuwen, y gantores a chyfansoddwraig o Riwlas yn Nyffryn Ogwen sydd bellach yn byw yn Llydaw.

“Mae’n llawn egni a gobaith, yn addas ar gyfer pob math o lais – mae’n gân sy’n dathlu’r amrywiaeth.

“Byddwch yn recordio gyda’ch ffôn i gyfeiliant syml a byddwn yn ychwanegu drymiau, bas ac offerynnau eraill ar ôl eich cyfraniad chi.

“Cewch glywed y fersiwn terfynol pan fyddwn yn rhyddhau’r gân ar gyfer Eisteddfod AmGen.”

‘Eithriadol o uchelgeisiol’

“Ry’n ni am greu’r côr Cymraeg rhyngwladol cyntaf erioed, ac ry’n ni angen eich help chi!” meddai Mari Pritchard, cydlynydd y prosiect.

“Mae hon yn gân egnïol ac yn llawn gobaith, a’r bwriad yw defnyddio ein diwylliant i ddatblygu’r berthynas rhwng Cymru a Chanada ymhellach – a pha well ffordd i wneud hynny na thrwy greu côr enfawr gyda chantorion o’r ddwy wlad a thu hwnt?”

“Mae’n brosiect eithriadol o uchelgeisiol, ac ry’n ni’n hyderus y bydd yna gantorion gwych yn ymateb i’r alwad er mwyn i ni greu fersiwn cwbl wych o’r gân hyfryd yma.

“Mae pawb yn edrych ymlaen yn arw at glywed y fersiwn terfynol yn barod!”