Wrth edrych ymlaen at gyhoeddi albwm cyntaf y band BOI mae’r canwr Rhodri Siôn ar dân i gael rhannu’r caneuon gyda’r byd ac yn ysu am gyfle i’w perfformio efo’r band o flaen cynulleidfa fyw. Nici Beech fu yn ei holi…

Mae’r albwm Coron o Chwinc gan y band BOI yn cael ei gyhoeddi ar derfyn yr wythnos hon, gyda’r unig gig yn y dyddiadur ar hyn o bryd wedi ei threfnu ar gyfer mis Hydref.