Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi ei ‘Rhaglen Lywodraethu’ am y pum mlynedd i ddod.

Ym mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ‘Chynllun ar gyfer Cymru’.

Mae’r ddwy ddogfen yn bwysig, gyda’r potensial i gael effaith ar bob agwedd o’n bywydau.

Mewn democratiaeth sy’n gweithredu’n iawn, gyda lefelau craffu priodol yn y Senedd, y cyfryngau a thu hwnt, byddai’r dogfennau hyn yn arwain at drafodaeth frwd am gynigion y ddwy lywodraeth.