Diwrnod di-nod yw Sul y Tadau yma bob blwyddyn. Neb i ddymuno Sul y Tadau Hapus iddo. Neb i ddymuno Sul y Tadau hapus i fi.

Ond dyma rannu cyfrinach…

Ychydig dros ddegawd yn ôl, fe ges i gynnig bod yn dad. Nid yn y ffordd gonfensiynol o bartnera gyda menyw a chenhedlu yn y ffordd arferol. Ond drwy fynd i drefniant – y mae rhai o’u math yn gynyddol gyffredin – lle byddwn i’n darparu’r deunydd crai, a’r ddarpar fam yn gwneud y gwaith caled o gario’r plentyn, ac esgor arno.