A hithau yn dymor dal mecryll, mae ‘sgotwrs Cymru wedi bod allan yn eu cychod yn chwilio am fachiad.

Ac fe lwyddodd Gari Bach o Gaernarfon i ddal math o siarc sydd fel arfer yn feistr ar osgoi ‘sgotwrs, sef y ‘Bull Huss’ sy’n tueddu i chwilio am fwyd liw nos a chysgu ar wely’r môr yn y dydd.