Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n ymgeisio i fod yn Ynadon Heddwch wedi cwympo, gan olygu fod llai a llai yn medru ymdrin ag achosion troseddol drwy gyfrwng yr iaith.
Ac mae pryder bod hynny yn gwneud i Gymry Cymraeg sydd yn y doc fod dan anhawster.
Mererid Edwards yw Barnwr Cyswllt yr Iaith Gymraeg ac mae hi hefyd yn Farnwr Cylchdaith sy’n arbenigo mewn gwaith teulu a llys gofal yn ne-ddwyrain Cymru.
Fe gysylltodd gyda Golwg yn dilyn cyfarfod diweddar o Bwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg. Mae’r Pwyllgor meddai “yn poeni am y prinder siaradwyr Cymraeg sy’n ymgeisio am fod yn Ynadon Heddwch a hynny trwy bob rhan o Gymru”.
Llysoedd yr Ynadon sy’n delio gyda throseddau ac maen nhw yn gyfrifol am weinyddu cyfiawnder yn eu cymunedau.
Yn gyffredinol, yn ôl Mererid Edwards sy’n wreiddiol o’r Bala, mae llai o ymgeiswyr ar gyfer bod yn ynadon, ac mae canran uwch o Gymry Cymraeg sydd yn ynadon wedi ymddeol yn ddiweddar.
“Ond bellach, mae’r canran o siaradwyr Cymraeg [sy’n ymgeisio] yn disgyn yn gyflymach na’r canran cyffredinol. Felly erbyn hyn, dim ond tua 6% o’r ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg o’r holl bobol sydd wedi rhoi cynnig ar eistedd fel ynadon yng Nghymru.”
Mae angen tri Ynad Heddwch i fod ar y fainc mewn Llys Ynadon i wrando ar achos, ac mae cael tri sy’n medru Cymraeg at ei gilydd yn heriol.
Mae gan bob ardal o’r wlad Ynadon sy’n siaradwyr Cymraeg, eglura Mererid Edwards, “ond mae’r nifer mor isel mae’n gwneud hi’n anodd iawn cael mainc at ei gilydd. Yn aml, beth sy’n gallu digwydd ydi bod yr holl fainc ddim yn siarad Cymraeg. Ac mae hynny’n ei gwneud hi’n anhawster wedyn i’r rhai sydd yn siarad Cymraeg.”
Mae’r broblem yn gwneud gwaith yr uned iaith yng Nghaernarfon “yn anodd iawn,” eglura Mererid Edwards, pan maen nhw’n ceisio trefnu achosion ar fyr rybudd.
Yn y gogledd mae mwyafrif yr achosion Llys yr Ynadon yng Nghaernarfon, sy’n golygu mwy o deithio i bawb, gan fod llysoedd Pwllheli, Caergybi, Dolgellau a Llangefni wedi cau.
Felly pwy sydd o dan anfantais?
“Y diffynnydd!” meddai Mererid Edwards.
“Beth sy’n digwydd yn aml ydi dydyn nhw ddim eisio gwneud ffys, dydyn nhw ddim eisio bod yn anodd a dydyn nhw ddim eisio iddo fo gyfri’ yn eu herbyn nhw. Y perygl ydi eu bod nhw’n mynd i ddefnyddio’r Saesneg.”
Mae goblygiadau pellgyrhaeddol i hynny gyda Mererid Edwards yn egluro bod diffynyddion Cymraeg iaith gyntaf “hwyrech ddim mor rhugl mewn Saesneg a hwyrech ddim yn gallu cyfleu beth maen nhw eisio ei ddweud yn y Saesneg mor glir a fydda nhw’n gallu yn y Gymraeg.
“Hwyrech fydda nhw ddim yn teimlo bod nhw yn rhan o’r drefn.”
Ond pam fod cyn lleied o siaradwyr Cymraeg yn dod yn Ynadon? A pham nad oes cyfleoedd i ddarpar Ynadon di-Gymraeg fynd ar gyrsiau i ddysgu’r iaith?
“Does ganddon ni ddim yr adnoddau [i anfon pobol ar gyrsiau],” meddai Mererid Edwards.
“Ond be’r ydan ni yn ei wneud yw cyfeirio pobol at y cyrsiau [dysgu Cymraeg] i oedolion, sy’n wych. Rydan ni eisio pobol sy’n gallu cyfathrebu yn glir a naturiol – dyna’r ydan ni’n canolbwyntio arno fo. “Dydan ni ddim yn chwilio am bobol efo Cymraeg ddisglair berffaith, ac os ydyn nhw yn ddysgwyr gorau oll.”
Mae Mererid Edwards yn cydnabod bod lle i wella o ran denu mwy o Gymry Cymraeg i ymgeisio am waith fel Ynad.
“Pan rydach chi’n edrych ar y ffigyrau dyw 6% ddim yn ddigon da … ond o’r bobol sydd yn ymgeisio, mae nifer helaeth o bobol sy’n siarad Cymraeg yn cael drwodd.”
Mae disgwyl i Ynadon Heddwch weithio am ddim, gan dderbyn costau bwyd a theithio yn unig.
Yn ôl Mererid Edwards mae gan bobol sy’n gweithio i gorff cyhoeddus neu i awdurdod lleol, “[yr] hawl i gael rhywfaint o amser yn ôl os ydach chi’n gwirfoddoli fel Ynad. I mi, dyna le dw i’n meddwl yr ydan ni’n colli allan.”
Gwaith gwirfoddol a di-dâl
Mae Elfed ap Gomer yn Ynad Heddwch yn y gogledd-orllewin ac mae sawl rhinwedd i’r gwaith o eistedd ar y fainc, eglura.
“Rydach chi’n cyflawni gwasanaeth pwysig iawn i’r gymdeithas ac yn cynrychioli eich pobol eich hun os liciwch chi, ac yn gwybod am yr ardal a phethau sy’n gallu digwydd yn yr ardal.”
Gwaith gwirfoddol llwyr yw bod yn Ynad Heddwch, ac mae hynny yn creu anhawster i rai, meddai Elfed ap Gomer.
“Dydach chi ddim yn cael eich talu [ond] y brif broblem faswn i’n dychmygu yw cael yr amser i wneud hynny. Pan o’n i’n dechrau, a dw i ddim yn siŵr sut mae hi erbyn hyn, ond roedd yna 12 diwrnod statudol oeddwn i’n gallu ei gael i ffwrdd o fy ngwaith [yn athro] yn ddi-dâl ac roedd hynny bron yn ddigon.”
Mae disgwyliad ar Ynad i weithio isafswm o 26 eisteddiad mewn blwyddyn gyda bore a phrynhawn yn ddau eisteddiad ar wahân, eglura.
Ac felly o ganlyniad mae rhai yn gorfod defnyddio eu gwyliau o’r gwaith ar gyfer gwirfoddoli’n Ynad.
“Mae hynny’n gallu bod yn broblemus i ddenu [Ynadon], yn enwedig y rhai iau ynte,” meddai Elfed ap Gomer.
“Y pethau positif am y swydd ydi’r cydweithio. Mae’r Ynadon sydd ganddon ni yng Ngwynedd yn bobol hawdd iawn gweithio efo nhw.”