Gyda’r argyfwng tai yn “gatastroffig” yn Sir Benfro, rhaid cyflwyno trefn o ailfeddiannu tai haf yn y sir.

Dyna farn radical Michael Williams, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Benfro a chynrychiolydd ward Gogledd Dinbych-y-pysgod.

Yn siarad yn ddiweddar â’r Narberth & Whitland Observer, fe ddywedodd y Pleidiwr bod angen cyflwyno’r fath drefn am fod y broblem mor wael.