Dw i wastad wedi ei chael hi’n anodd gwybod pryd mae anwybyddu rhywbeth a phryd mae ei alw allan. Weithiau, rhaid mynd yn erbyn rhywbeth gyda phob grym a nerth, ac weithiau mae llwgu rhywbeth o sylw yn ei ladd. Go brin fod unrhyw un yn gwybod y cydbwysedd sydd angen ei daro, does yna ddim fformiwla bendant. Y cyntaf ydi’r reddf bob tro, p’un ai am bolisi newydd creulon sy’n dod o Lundain, neu rywun â deg dilynwr ar Twitter yn gwneud “jôc” am ddiffyg llafariaid yn y Gymraeg.