Mae waliau wedi mynd yn bethau poblogaidd iawn, yn y byd gwleidyddol o leia’. Mi aeth yr un goch a rŵan mae yna fwlch bach yn yr un las.

Yng Nghymru, wrth gwrs, mi allech chi ddadlau fod yna dair, efo un werdd Plaid Cymru’n amgylchynu’r Gogledd a thalp go-lew o’r Gorllewin.

Mae’n rhy gynnar i ddweud be ydi arwyddocâd go-iawn yr isetholiad yn hen sedd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn Chesham ac Amersham yn y belt breintiedig ar gyrion Llundain.