Peth tawel oedd yr ysgariad yn y diwedd. Ni fu unrhyw ddadlau dros arian nac eiddo – rhannwyd popeth yn daclus ac yn deg, ’run ohonyn nhw’n malio digon i ddadlau dros y llestri priodas na’r system sain hynafol. Roedd y plant wedi mynd, a’u presenoldeb yn ddim ond lleisiau dros y ffôn – Wel, ’na fo, ’da chi heb fwynhau eich gilydd ers blynyddoedd naddo? Daeth James o hyd i gariad o fewn deufis i adael y tŷ. Merch glên, ac ifanc, wrth gwrs – peth i bobol ifanc oedd cariad, penderfynodd An