Mae’r hirddydd wastad yn ddiwrnod arbennig iawn – fel rheol, mae’n ddiwrnod i wylio’r wawr a’r machlud, ar gyfer ailymweld â’r un hen lecyn heulog i hel meddlys, a gosod y blodau bychain i sychu yn yr ardd. Maen nhw’n arferion bach tawel – rhywbeth yn agos at ddefod, erbyn hyn – sy’n rhoi synnwyr o obaith, ac yn rhoi esgus da i ddianc o’r ddinas i ganol byd natur.